Elusennau Iechyd Hywel Dda ar ewyllysiau am ddim

0
250

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi partneru gyda Farewill i gynnig cyfle i’r cyhoedd a staff GIG lleol ysgrifennu eu hewyllys am ddim.

Mae unrhyw rodd mewn ewyllys, mawr neu fach, yn helpu eich elusen GIG i wneud gwahaniaeth

cadarnhaol a pharhaol i fywydau cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff lleol y GIG.

O 1 Hydref, rydym yn ymuno a’r arbenigwyr ysgrifennu ewyllys Farewill i gynnig cyfle i’n cefnogwyr a staff GIG Hywel Dda ysgrifennu neu ddiweddaru eu hewyllys am ddim.

Mae gan yr elusen nifer gyfyngedig o ewyllysiau am ddim ar gael i’r cyhoedd ac aelodau staff. Mae’r gwasanaeth ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Mae arbenigwyr Farewill ar gael saith niwrnod yr wythnos a gellir ysgrifennu ewyllysiau ar-lein neu dros y ffôn, gan gymryd llai na 30 munud yn aml.

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda Tara Nickerson: “Rydym yn falch o allu cynnig y gwasanaeth hwn i’n cymunedau lleol ac i’n cydweithwyr yn y GIG.

“Nid oes unrhyw rwymedigaeth i adael rhodd yn eich ewyllys i Elusennau Iechyd Hywel Dda fel rhan o’n Gwasanaeth Ewyllys am Ddim. Fodd bynnag, mae gadael anrheg i ni yn ffordd hyfryd a chadarnhaol i’n helpu i ddarparu offer a gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn ein tair sir, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Mae rhoddion a chymynroddion gan gefnogwyr hael fel chi yn gwneud gwahaniaeth mawr a, gyda’n gilydd, gallwn helpu i ddarparu’r gofal gorau oll ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

I gael mwy o wybodaeth ar sut i adael diolch parhaol i’ch elusen GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk neu e-bostiwch heddiw ar Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle