Gwahodd pobl i dderbyn eu dos atgyfnerthu neu frechlyn cyntaf os rhwng 12 a 15 oed yn eu canolfan brechu torfol agosa

0
306

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i’r rheini sydd wedi derbyn llythyr apwyntiad dos atgyfnerthu neu lythyr apwyntiad brechlyn dos cyntaf fynd i’w canolfan brechu torfol agosaf os nad yw’r apwyntiad a ddarperir mewn lleoliad cyfleus.

Yr wythnos hon, cyhoeddwyd y llythyrau apwyntiad cyntaf i bobl ifanc 12 i 15 oed a llythyrau apwyntiad dos atgyfnerthu i bobl a dderbyniodd eu hail ddos brechlyn dros 6 mis yn ôl.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ôl cael gwybod bod apwyntiadau wedi’u dyrannu ar gyfer rhai mewn canolfan sy’n bellach na’u canolfan agosaf, hoffem sicrhau pobl â llythyr apwyntiad y gallant fynychu eu canolfan agosaf ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw.

“Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd i aildrefnu ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw ddryswch neu drallod y gallai hyn fod wedi’i achosi.”

Sylwch fod y cynnig hwn ar gyfer y rhai sydd wedi derbyn llythyr apwyntiad gan y bwrdd iechyd yn unig. Dewch â’r llythyr hwn gyda chi pan fyddwch chi’n mynychu ar gyfer eich dos atgyfnerthu neu’ch brechlyn cyntaf os ydych chi rhwng 12 a 15 oed.

  • Aberystwyth (Llyfrgell Thomas Parry, SY23 3AS) – ar agor ddydd Gwener 1 i ddydd Iau 7 Hydref rhwng 10am a 5pm ar gyfer dos atgyfnerthu a rhwng 5.30 ac 8.20pm i unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad ac sydd rhwng 12 a 15 oed.
  • Cerdded i mewn Halliwell Caerfyrddin (hen Feithrinfa Y Gamfa Wen, UWTSD, SA31 3EP) – ar agor ddydd Gwener 1 i ddydd Iau 7 Hydref rhwng 10am a 5pm ar gyfer dos atgyfnerthu a rhwng 5.30 ac 8.20pm i unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad ac sydd rhwng 12 oed a 15.
  • Gyrru trwodd Caerfyrddin (18 oed a hŷn) (Maes Sioe’r Siroedd Unedig, SA33 5DR) – ar agor ddydd Gwener 1 i ddydd Iau 7 Hydref rhwng 10am a 6pm i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn.
  • Cwm-cou (Ysgol Trewen, SA38 9PE) – ar agor ddydd Gwener 1 i ddydd Iau 7 Hydref rhwng 10am a 5pm ar gyfer dos atgyfnerthu a rhwng 5.30 ac 8.20pm i unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad ac sydd rhwng 12 a 15 oed.
  • Hwlffordd (Archifau Sir Benfro, SA61 2PE) – ar agor ddydd Gwener 1 i ddydd Iau 7 Hydref rhwng 10am a 5pm ar gyfer dos atgyfnerthu a rhwng 5.30 ac 8.20pm i unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad ac sydd rhwng 12 a 15 oed.
  • Llanelli (Ystad Ddiwydiannol Dafen, Uned 2a, Heol Cropin, SA14 8QW) – ar agor ddydd Gwener 1 i ddydd Iau 7 Hydref rhwng 10am a 5pm ar gyfer dos atgyfnerthu a rhwng 5.30 ac 8.20pm ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad ac sydd rhwng 12 a 15 oed. .
  • Dinbych-y-pysgod (Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod, SA70 8EJ) – ar agor bob dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10am a 4pm ar gyfer dos atgyfnerthu ac ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad ac sydd rhwng 12 a 15 oed.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle