Cronfa gwerth £100,000 i fynd i’r afael â thlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
351

Dyfarnwyd cronfa grant gwerth dros £100,000 i Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gefnogi sefydliadau cymunedol sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd.

Gall elusennau a sefydliadau gwirfoddol wneud cais i’r Grant Tlodi Bwyd am gyllid cyfalaf a refeniw a fydd yn mynd i’r afael â materion mewn perthynas â thlodi bwyd neu’n helpu i fynd i’r afael ag achos tlodi bwyd.

Gellir defnyddio cyllid cyfalaf i gefnogi sefydliadau i gael mynediad at gyflenwadau bwyd, eu storio a’u dosbarthu, gan gynnwys bwyd dros ben a storio bwyd ffres. Er enghraifft, trwy brynu oergelloedd, rhewgelloedd, cyfarpar coginio neu gyfarpar TG sy’n helpu i ymdrin ag atgyfeiriadau cwsmeriaid.

Gellir defnyddio cyllid cyfalaf mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys i ddatblygu prosiectau fel archfarchnadoedd cymdeithasol, caffis cymunedol, clybiau cinio a dosbarthiadau coginio cymunedol. Gellid hefyd ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau sy’n canolbwyntio ar waith allgymorth a hyfforddi gwirfoddolwyr i fynd i’r afael â thlodi bwyd.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 29 Hydref 2021. Does dim terfyn ar y swm y gall sefydliadau wneud cais amdano drwy’r gronfa.

Meddai’r Cynghorydd Doreen Jones, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb, “Fel cyngor rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio ochr yn ochr â sefydliadau cymunedol i wneud hyn.

“Mae’r cyllid yn helpu sefydliadau i allu cefnogi mwy o bobl nad oes ganddynt ddigon o arian i brynu digon o fwyd a chefnogi prosiectau sy’n ceisio mynd i’r afael ag achos sylfaenol tlodi bwyd.”

Derbyniwyd arian ar gyfer y grant gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u cynnig i helpu awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector i fynd i’r afael â thlodi bwyd.

Am ragor o wybodaeth ac i lenwi ffurflen gais ar-lein, ewch i www.npt.gov.uk/GrantTlodiBwyd. Os hoffech drafod cais, e-bostiwch Fiona Clay-Poole, Swyddog Polisi Corfforaethol yn f.clay-poole@npt.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle