Ymatebodd 97% o gartrefi – ffigur anhygoel – ledled Cymru a Lloegr i Gyfrifiad 2021 i wneud yn siŵr eu bod yn cyfrif ar gyfer gwasanaethau lleol – a gwnaeth bron 90% ohonynt hyn ar lein.
Dengys y canfyddiadau cychwynnol a gyhoeddir heddiw fod yr ymateb ar-lein i’r cyfrifiad digidol yn gyntaf cyntaf wedi rhagori ar ddisgwyliadau; cafodd mwy na 22 miliwn o ymatebion eu cyflwyno drwy’r holiadur gwe.
Roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi gosod targed cyn y cyfrifiad o 75% o leiaf yn cwblhau’r holiadur ar lein. Fodd bynnag, roedd y ffigur yn uwch na hynny, wrth i 88.9% o gartrefi ymateb i’r cyfrifiad ar ddyfais ddigidol.
Ffôn symudol oedd y ffordd fwyaf cyffredin o gwblhau’r holiadur electronig; dewisodd 56.4% o gartrefi wneud hynny fel hyn. Defnyddiodd bron 35% gyfrifiadur bwrdd gwaith, a defnyddiodd 9% lechen.
Ar gyfartaledd, cymerodd 23 munud i gartref gwblhau’r holiadur ar-lein, a oedd yn unol â’n disgwyliadau.
“Cawsom ymateb gwych i Gyfrifiad 2021 wrth i fwy na 97% o gartrefi gwblhau eu cyfrifiad er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynrychioli ar gyfer gwasanaethau lleol fel lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai a gwasanaethau brys, ac roedd yn wych gweld y mwyafrif llethol yn defnyddio ein gwasanaethau digidol,” dywedodd Pete Benton, Cyfarwyddwr Cyfrifiad 2021.
“Bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn hanfodol i’n helpu i ddeall effaith pandemig y coronafeirws ar gymunedau gwahanol. Yn ogystal â darparu gwybodaeth am ein poblogaeth a’n hiechyd, bydd Cyfrifiad 2021 hefyd yn taflu goleuni ar y newidiadau cymdeithasol ac economaidd i’n bywydau.
“Tra bo data o Gyfrifiad 2011 eisoes wedi bod yn hanfodol i’n helpu i ddeall marwolaethau ar gyfer gwahanol grwpiau yn ystod y pandemig, bydd data newydd sbon o Gyfrifiad 2021 yn ein galluogi i ddiweddaru ein gwaith dadansoddi ac, ochr yn ochr â ffynonellau data gweinyddol newydd, cawn y data gorau erioed ar ein poblogaeth.”
Y 5 uchaf o blith awdurdodau lleol yn Lloegr yn ôl cyfran ar-lein ar gyfer ardaloedd ar lein yn gyntaf:
- Tower Hamlets 97.3%
- Newham 97.0%
- Dinas Llundain 96.7%
- Slough 96.7%
- Hounslow 96.6%
Y 5 uchaf o blith awdurdodau lleol yng Nghymru yn ôl cyfran ar-lein ar gyfer ardaloedd ar lein yn gyntaf:
- Caerdydd 95.2%
- Casnewydd 94.3%
- Bro Morgannwg 94.2%
- Rhondda Cynon Taf 94.0%
- Sir y Fflint 93.5%
Mae’r ymgynghoriad ar allbynnau Cyfrifiad 2021 yn cau am hanner nos yfory (5 Hydref), felly os hoffai pobl ddweud eu dweud ar y data o’r cyfrifiad a gaiff eu cyhoeddi, dylent ymateb nawr.
Mae proses sicrhau ansawdd drylwyr yn cael ei chynnal bellach er mwyn sicrhau bod y canlyniadau gorau o’r cyfrifiad ar gael i bawb.
Yna rhyddheir mwy o ddata a gwaith dadansoddi fesul cam drwy gydol 2022 a 2023.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyfrifiad ar-lein 2021 a sut y gwnaeth SYG alluogi pobl i ymateb yn ddigidol neu ar bapur, darllenwch yr adroddiadau llawn yma.
Nodiadau i olygyddion
- Y cyfrifiad yw’r ymarfer ystadegol mwyaf y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ei gynnal, gan gynhyrchu ystadegau sy’n llywio pob agwedd ar fywyd cyhoeddus ac yn ategu polisi cymdeithasol ac economaidd. Mae’n darparu toreth o wybodaeth ar lefel ddaearyddol fach er mwyn llywio gwaith cynllunio a phenderfyniadau lleol. Felly, mae’n hanfodol bod pawb yn cymryd rhan ac yn cael eu cyfrif a bod yr ystadegau sy’n cael eu cynhyrchu yn gywir ac yn diwallu anghenion defnyddwyr.
- Yn 2014, argymhellodd (117.8 KB, PDF) yr Ystadegydd Gwladol y dylai Cyfrifiad 2021 fod yn gyfrifiad ar-lein yn bennaf, ac y dylid sicrhau bod cymorth ar gael i’r rhai na allant gwblhau’r cyfrifiad ar lein. Ystyriwyd hyn gennym wrth fynd ati i baratoi ac mae dwy erthygl a gyhoeddir heddiw yn disgrifio rhannau allweddol o’r gwaith hwnnw.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle