£36.6 miliwn i helpu teuluoedd a phlant i adfer o’r pandemig

0
316
Julie Morgan MS, Deputy Minister for Social Services

Welsh Government

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod £36.6 miliwn ychwanegol wedi ei neilltuo i helpu plant a theuluoedd i adfer o effeithiau’r pandemig a’i gyfyngiadau, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei hymrwymiad i wneud plant yn ganolog i bopeth y mae’n ei wneud yn ystod tymor y Senedd hon. Er mwyn sicrhau nad yw unrhyw deulu na phlentyn yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r pandemig, mae pecyn sylweddol o gymorth yn cael ei ddarparu i ariannu mentrau sy’n helpu plant, pobl ifanc, teuluoedd a’r gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio ganddynt i adfer o effeithiau’r pandemig a symud ymlaen.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r cyllid hwn i ddarparu pecyn o gymorth i gefnogi llesiant ein pobl ifanc a’n teuluoedd. Mae pob un ohonom, yn enwedig ein plant a phobl ifanc, wedi teimlo effeithiau emosiynol a chorfforol y flwyddyn sydd wedi mynd heibio. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei roi iddyn nhw yn parhau, drwy greu mwy o gyfleoedd i wella eu llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol.

“Dw i’n awyddus i adeiladu ar lwyddiant Haf o Hwyl, drwy roi cymorth i’n pobl ifanc, eu teuluoedd, a hefyd i’r economi leol o’u cwmpas sy’n darparu’r mathau hyn o weithgareddau a gwasanaethau. Mae chwarae wedi mynd yn fwyfwy pwysig fel ffordd o helpu ein pobl ifanc i ail-ymgysylltu, gan ei fod yn creu llawer o gyfleoedd i  blant o bob oed ddatblygu amrywiaeth o wahanol sgiliau.”

Dyma sut y bydd y pecyn £36.6 miliwn o gymorth llesiant yn cael ei rannu:

  • £11.6m o gyllid cyfalaf i gynyddu capasiti mewn lleoliadau gofal plant, lleoliadau chwarae, a lleoliadau Dechrau’n Deg yng Nghymru, gan gynnwys cyllid y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu mannau awyr agored, prynu dyfeisiau monitro CO2, neu i gymryd camau eraill i gryfhau’r ymateb i COVID;
  • £5m o gyllid cyfalaf i helpu awdurdodau lleol i ymateb i flaenoriaethau eu cynlluniau gweithredu sy’n ceisio sicrhau bod digon o gyfleoedd chwarae.
  • £20m o gyllid refeniw i wella mynediad at weithgareddau chwarae neu gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon, a gweithgareddau creadigol, diwylliannol a mynegiannol yn Gymraeg ac yn Saesneg, i blant a phobl ifanc 0-25 oed. Bydd hyn yn adeiladu ar lwyddiant Haf o Hwyl gan greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i’n pobl ifanc yn ystod y gaeaf ac i mewn i’r gwanwyn.

Aeth Ms Morgan ymlaen:

“Dyma genhedlaeth y dyfodol a nod y pecyn hwn o gymorth llesiant yw cefnogi pobl ifanc o bob cymuned, drwy roi cyfle iddynt ddatblygu eu llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol ar gyfer heddiw a’r dyfodol.

Bydd rhan o’r cyllid hwn hefyd yn adeiladu ar lwyddiant prosiectau megis Haf o Hwyl mewn lleoliadau addysg, drwy ddarparu gweithgareddau y tu allan i ddysgu ffurfiol, sy’n gysylltiedig â’n cynllun Adnewyddu a Diwygio.”

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Dw i’n falch y bydd rhan o’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn cael ei ddefnyddio i roi cymorth uniongyrchol i ysgolion, colegau a lleoliadau addysg uwch fel rhan o’n cynllun Adnewyddu a Diwygio. Y nod yw gwella llesiant corfforol, meddyliol, ac emosiynol drwy wella mynediad at weithgareddau creadigol, chwaraeon, a gweithgareddau diwylliannol yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn ategu nifer o fentrau ehangach rydyn ni hefyd yn eu datblygu, er mwyn sicrhau bod profiadau a gweithgareddau ychwanegol o ansawdd da yn cael eu darparu yn ystod ac o gwmpas diwrnodau ac wythnosau ysgol, a hefyd y flwyddyn ysgol.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Dw i’n croesawu’r cyfle sy’n cael ei greu gan y cyllid hwn i adeiladu ar weithgareddau Haf o Hwyl, a dw i’n falch y bydd y sector diwylliant a chwaraeon yn parhau i chwarae rôl bwysig drwy helpu ein plant a phobl ifanc i adfer o effeithiau’r pandemig. Mae’r rhaglen hon yn enghraifft arall o sut rydyn ni’n cydweithio i roi cyfleoedd a phrofiadau i’n plant a phobl ifanc, er mwyn cael effaith barhaol a phositif ar eu hiechyd a’u llesiant.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle