Aelodau Tîm GTACGC yn cael eu Gwobrwyo gan Fwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

0
255
Safeguarding Awards

Mid & W Wales Fire News

Cafodd aelodau o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu cydnabod am eu cyfraniad rhagorol i ddiogelu yn Seremoni Wobrwyo Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg ar gyfer Cydnabod Trefniadau Diogelu, a gynhaliwyd yn rhithwir ar 29 Mehefin 2021.

Roedd y seremoni yn gyfle i gydnabod y rhai yr oedd eu cyfraniadau wedi cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar fywydau pobl, ac i ddathlu’r cyfraniadau rhagorol hyn o ran diogelu.

Safeguarding Awards

Dywedodd Karen Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Roedd staff o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau oherwydd eu gwaith rhagorol yn diogelu oedolion a phlant, ac am eu hymdrechion parhaus i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn mewn modd diogel er gwaethaf heriau’r cyfyngiadau symud. Roedd yr enwebiadau wedi cyfeirio at ymyraethau nodedig yr oedd staff wedi’u cyflawni, ond dim ond nifer bach o enghreifftiau oedd y rhain o’r gwaith rhagorol a wneir gan staff y Gwasanaeth bob dydd wrth nodi a lleihau risg.”

Ym mis Tachwedd 2020, wrth weithredu o dan brotocolau COVID-19, aeth aelodau o’r Adran Diogelwch Cymunedol, Tina Sherriff a Janet Lloyd, i gyfeiriad unigolyn agored i niwed yn Abertawe a sylwi ar arogl nwy. Aethant ati ar unwaith i ofyn am gymorth gan Orsaf Dân Treforys, a oedd yn gallu cadarnhau darlleniadau uchel ar gyfer Nwy a Charbon Monocsid, a chadarnhawyd hyn ymhellach gan aelodau’r cwmni cyfleustodau ar ôl iddynt gyrraedd. Arhosodd Tina a Janet yn y fan a’r lle gan ddarparu cymorth cyntaf ac atgyfeiriadau at asiantaethau partner ac asiantaethau cymorth, ac ymgysylltu â nhw, yn ogystal ag ymgysylltu ag aelodau o’r teulu er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn cael ei amddiffyn rhag niwed.

Swansea NPT

Cafodd yr Adran Diogelwch Cymunedol hefyd ei henwebu am ei harloesedd ac am wella arfer o ran diogelu, a dyfarnwyd gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig i staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cydnabod y cyfraniad a wnânt i ddiogelu oedolion a phlant yn gyffredinol.

Cafodd y Swyddogion Diogelwch Cymunedol James Comey a Joanna Phillips eu henwebu am eu hymrwymiad eithriadol i ddiogelwch plant, a hynny o ganlyniad i’r gwaith rhagorol a wnaethant gyda phlentyn yr oedd yna bryderon eithafol ynghylch ei ymddygiad o ran cynnau tanau, a pheryglon yr ymddygiad hwnnw i’r teulu a’r gymuned ehangach.

Safeguarding Awards

Ni chafodd Jo na James eu digalonni gan yr anawsterau yr oeddent yn eu hwynebu, ac aethant ati i wneud eu gorau glas, gan gwrdd â seicolegydd ymddygiad, sicrhau bod eu sesiynau gyda’r plentyn mor egnïol â phosibl, a gweithio o amgylch anghenion y plentyn er mwyn dod o hyd i’r ateb unigol perffaith.

Roedd y Dirprwy Arweinydd Diogelu, Jay Crouch, sydd hefyd yn hyfforddwr ac yn Ffrind Dementia, wedi ymweld â llawer o bobl oedrannus yn y gymuned a oedd wedi dod i sylw oherwydd achosion o adael bwyd yn coginio heb oruchwyliaeth. Roedd hefyd wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc a oedd wedi bod yn cynnau tanau yn y cartref. Bu Jay yn cydlynu cyflenwadau ac yn darparu gyrwyr i ofalu am aelodau agored i niwed o’r gymuned, gan gynnwys cynorthwyo’r bobl hynny i gael eu brechiadau.

Cafodd Emyr Davies a Robert Goldsmith eu canmol hefyd, a hynny am eu hymweliadau ag aelodau risg uchel o’r gymuned yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Roedd hyn yn cynnwys digwyddiad lle y bu iddynt ymateb ar unwaith a diogelu dioddefwr camdriniaeth ddomestig lle roedd yna risg o gynnau tân bwriadol, gan sicrhau bod trefniadau diogelu addas yn cael eu rhoi ar waith i gadw’r teulu’n ddiogel.

Roedd yr ymateb i’r gwobrau yn rhagorol, gydag 85 o enwebiadau wedi’u darparu ar draws chwe chategori, ac roedd 206 o weithwyr proffesiynol yn bresennol yn y seremoni.  Cafodd enillwyr y gwobrau eu dewis gan banel amlasiantaeth annibynnol, a chawsant eu cyflwyno mewn modd rhithwir gan Bobl Ifanc a Gwesteion Arbennig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle