Manwerthwr gorsaf Hwlffordd “ysbrydoledig” yn dathlu 60 mlynedd o wasanaeth

0
325
Jimmy

Transport For Wales News

Mae manwerthwr gorsaf sydd wedi bod yn rhedeg ciosg am 60 mlynedd wedi cael ei ddisgrifio a’i ganmol gan Trafnidiaeth Cymru fel “aelod ysbrydoledig o deulu’r rheilffordd”.

Dechreuodd Jimmy Summons, sy’n rhedeg y ciosg papur newydd yng ngorsaf Hwlffordd yn Sir Benfro, ei yrfa yn y dyddiau pan roedd y trenau stêm yn ei hanterth ac yn gwibio heibio i gwrdd â’r fferi yn Abergwaun pan oedd ond yn 16 oed ym 1961.

Dros y blynyddoedd, mae wedi gweld Richard Burton, y Tywysog Siarl a’i Huchelder Brenhinol y Frenhines Elizabeth 2 yn yr orsaf ac mae wedi gwerthu nwyddau i’r Arglwydd Snowdon a’r actor Jerome Flynn, un o sêr y gyfres ddrama Soldier Soldier.

Jimmy

A dim ond mis i fynd cyn ei ben-blwydd yn 77oed, dywed Jimmy nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymddeol.

“Mae fy nghath yn fy neffro am 4:45 bob bore ac rydw i’n mynd i lawr i wneud te a pharatoi’r papurau,” meddai Jimmy, sydd wedi byw yn y dref ar hyd ei oes.

“Byddaf yn danfon papurau i’m cwsmeriaid o amgylch y dref cyn dod i lawr i’r orsaf i gwrdd â’r trên cynnar.

“Rydw i wrth fy modd oherwydd dydych chi byth yn gwybod pwy all ddod i mewn i’r ciosg neu i ble maen nhw’n mynd, ond rydw i’n ceisio eu trin i gyd yr un fath.”

Jimmy

Gadawodd yr ysgol yn 15 oed ac yna, bu Jimmy yn gweithio gyda’i frawd cyn ymgymryd â’r ciosg gyda chaniatâd John Menzies i werthu papurau newydd, llyfrau a thybaco yn yr un flwyddyn y cafodd yr Arlywydd John F Kennedy ei urddo yn UDA.

Roedd dyddiau y trên stêm yn prysur ddod i ben a bwyell Beeching ar fin disgyn ar reilffyrdd ledled Cymru.  Roed y tîm oedd yn rheoli parseli a chyflogau yn llawer iawn mwy bryd hynny.

“Fe gawson ni gyfnodau gwych dros y blynyddoedd,” meddai Jimmy.

“Byddaf bob amser yn cofio fy ffrindiau da Dai Havard a Jimmy Morgan.  Arferai staff y rheilffordd edrych ar fy ôl pan oeddwn yn ifanc ac yn dechrau allan ac rwyf bob amser wedi cael modd i fyw yn bod yn rhan o bethau yma.  Rydyn ni wedi cael llawer o sbort dros y blynyddoedd er y bu ychydig o eiliadau cofiadwy iawn hefyd.

Jimmy

“Unwaith, flynyddoedd lawer yn ôl, cwympodd troli parseli ar y lein a bu’n rhaid i mi neidio i lawr gyda gweddill y bechgyn a helpu i’w godi cyn bod y trên yn cyrraedd*.  Dro arall roedd yn rhaid i mi rybuddio’r gard fod lori wedi taro’r bont reilffordd yn nes i fyny’r trac.

“Daeth Richard Burton i’r ciosg pan oedd yn ffilmio Under Milk Wood yn Abergwaun ac yn dal trên yn ôl i Lundain, er yn anffodus, welsom ni ddim Elizabeth Taylor.

“Dros y blynyddoedd, mae aelodau o’r teulu brenhinol wedi galw yma ac rydw i’n cofio codi llaw ar y Tywysog Siarl a chwifiodd yn ôl arna i.  Bryd hynny, roedden nhw ar y ffordd i ddigwyddiad yng Nghastell Picton.”

*Mae TrC yn pwysleisio na ddylech chi fyth fynd ar y trac i adfer unrhyw eitemau a ollyngwyd.

Mae Jimmy wedi bod yn briod â’i wraig annwyl Lorraine, 74 oed, ers blynyddoedd lawer ac mae hi hefyd yn dal i weithio, mewn cartref preswyl.  Mae rhai o’r preswylwyr y mae hi’n gofalu amdanynt yn iau na hi!

Rhoddodd y gorau i werthu sigaréts sawl blwyddyn yn ôl ac mae wedi gweld dirywiad yn y farchnad lyfrau dros y blynyddoedd hefyd.

Jimmy

“Ymddengys nad oes cymaint o bobl yn hoffi darllen ar eu taith mwyach, sy’n eithaf trist.  Mae’n ymddangos eu bod i gyd ar eu ffonau symudol neu iPads.  Ond mae’n braf bod llawer o fy nghwsmeriaid hŷn wedi dechrau codi allan eto ar ôl Covid ac mae mwy o fynd ar y papurau newydd bellach hefyd.

Dywedodd James Nicholas, Rheolwr Gorsaf Trafnidiaeth Cymru: “Mae Jimmy wir yn rhan o’r adeiladwaith yma yn Hwlffordd ac mae gan ein holl gwsmeriaid a chydweithwyr feddwl y byd ohono.

“Mae’r ffaith ei fod yn codi mor gynnar bob dydd ac yn dal i weithio mor galed i ddarparu gwasanaeth mor wych i’n cwsmeriaid hyd yn oed ar ôl 60 mlynedd yn anhygoel.  Mae’n aelod gwirioneddol ysbrydoledig o deulu’r rheilffordd.  Diolch am yr holl waith caled Jimmy.  Dyma ddymuno’n dda iawn i chi am flynyddoedd lawer eto yn Hwlffordd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle