29 o brosiectau newydd a fydd yn helpu ‘Tîm Cymru’ i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur

0
276

Welsh Government

O asynnod yn Eryri i eogiaid Afon Wysg a phopeth rhwng y ddau, mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cadarnhau 29 o brosiectau ledled Cymru a fydd yn elwa o’r Gronfa Rhwydweithiau Natur.

Cadarnhawyd y Gronfa Rhwydweithiau Natur ym mis Mawrth eleni gyda Llywodraeth Cymru yn addo buddsoddi yng ‘nghyflwr a chysylltedd’ y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, gyda chefnogaeth ‘cyfranogiad gweithredol cymunedau lleol’.

Bydd y Gweinidog yn cadarnhau £7m o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r prosiectau hyn yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw ble mae disgwyl iddi ddweud: “Mae mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn – rhaid i ni ddiogelu ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

“Gan gydnabod pwysigrwydd defnyddio grym cymunedau lleol, bydd yr arian hwn yn cefnogi gwyddoniaeth dinasyddion, rhaglenni ymgysylltu ag ysgolion a hyfforddi gwirfoddolwyr i adeiladu rhwydweithiau o bobl sy’n ymwneud â’r safleoedd hyn, sy’n gonglfeini ein gwaith adfer natur.

“Mae angen dull ‘Tîm Cymru’ arnom os ydym am gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i adfer natur. Rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru weld natur – oherwydd os yw pobl mewn cysylltiad â natur, mae nhw’n gwerthfawrogi natur.”

Mae’r safleoedd a gefnogir yn darparu noddfa hanfodol a lefel uchel o ddiogelwch i bron i 70 o rywogaethau, a mwy na 50 math o gynefinoedd sy’n wynebu bygythiadau ledled y byd.

Maent hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru drwy dwristiaeth hamdden, ffermio, pysgota a choedwigaeth. Ac maent yn darparu gwasanaethau cynnal bywyd hanfodol i bob un ohonom – gan gynnwys puro dŵr yfed, a storio carbon.

Mae Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol wedi cymryd cyfrifoldeb dros weinyddu’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, meddai Andrew White – Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“O adfer gwlyptiroedd, i greu cynefin cyfoethog i fywyd gwyllt ffynnu, mae’n hanfodol ein bod yn cadw ac yn ailadeiladu ein treftadaeth naturiol.

“Bydd y cynllun Rhwydweithiau Natur, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn caniatáu i brosiectau wneud gwaith cadwraeth uniongyrchol sy’n hanfodol er mwyn diogelu ein bioamrywiaeth, a bydd hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut a pham mae angen i ni ddiogelu ein dyfodol.”

Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities), sy’n gweithredu ym Mae Caerfyrddin a Bae Tremadog yw un o’r prosiectau i elwa o’r cyhoeddiad hwn.

Derbyniodd y prosiect cydweithredol dan arweiniad ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) a Chyfoeth Naturiol Cymru £390,000, ochr yn ochr â chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac On the EDGE Conservation, i gynnal ymchwil cadwraeth hanfodol ar amgylchedd morol Cymru gyda ffocws cryf ar siarcod a morgathod.

Byddant yn defnyddio’r cyllid i sbarduno cysylltiadau rhwng pysgotwyr, ymchwilwyr, cymunedau a’r llywodraeth i helpu i ddiogelu’r rhywogaethau hyn a chefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru.

Dywedodd Joanna Barker, Uwch Reolwr Prosiect ZSL: “Rydym yn teimlo’n gyffrous i gynyddu ein cydweithrediad â physgotwyr a chwblhau ymchwil arloesol i ddeall yn well y rhywogaethau siarcod a morgathod anhygoel sy’n defnyddio dwy o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru.

“Gyda sawl cyfle i ysgolion a chymunedau lleol fod yn rhan o Brosiect SIARC, rydym yn gobeithio creu gwerthfawrogiad newydd o’r amgylchedd tanddwr yng Nghymru a nodi ffyrdd i ystod ehangach o bobl gymryd rhan.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle