Sylw ar Ddiffyg Maeth: Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth 11-17 Hydref

0
258

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn arwain y ffordd i roi ‘Sylw ar Ddiffyg Maeth’ gyda dull atal a thriniaeth i fynd i’r afael ag effeithiau andwyol diffyg maeth.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth (MAW) yn fenter flynyddol yn y DU a arweinir gan Cymdeithas Brydeinig Maeth drwy’r Gwythiennau a’r Ymysgaroedd (BAPEN).

Fel rhan o arolwg blynyddol cenedlaethol, bydd aelodau o’n tîm Maetheg a Deieteg yn cynnal yr arolwg sgrinio ar wardiau ysbytai ac mewn rhai lleoliadau cymunedol yr wythnos hon. Gellir sicrhau cleifion na fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chasglu a ellir eu hadnabod.

Trwy sgrinio llawer o bobl ledled y DU, gellir tynnu gwell darlun o raddfa’r broblem diffyg maeth, cyfleoedd i wella, yn ogystal â thynnu sylw at driniaeth cymorth maeth y mae pobl yn ei chael.

Dywedodd Emma Catling, Arweinydd Strategol Diffyg Maeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ein nod yw cefnogi pobl i atal diffyg maeth, a chanfod problemau diffyg maeth yn gynnar trwy sgrinio a mynd i’r afael â nhw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle