Cyngor Sir Caerfyrddin yn ennill gwobr arian yng Ngwobrau Sector Cyhoeddus IESE am wasanaeth CONNECT arloesol

0
414

 

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ennill y wobr arian yn seremoni wobrwyo fawreddog Gwobrau Trawsnewid y Sector Cyhoeddus iESEar am ei wasanaeth CONNECT.

Roedd y gwobrau, a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Medi, yn gyfle i ddathlu a rhannu’r arferion mwyaf arloesol wrth drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus lleol. Maent hefyd yn cydnabod y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus lleol wedi gweithio gyda’i gilydd i rannu arferion gorau a thrawsnewid y modd y darperir gwasanaethau.

Enwebwyd CONNECT, a ddarperir gan Llesiant Delta, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol y Cyngor, o dan y categori Arloesi am y cymorth cynyddol a roddwyd i’n pobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned drwy gydol y pandemig Covid.

Mae’r gwasanaeth, sef y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn darparu gwasanaeth teleofal a llinell fywyd datblygedig ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’n ceisio trawsnewid y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu trwy fodel newydd o hunangymorth a gofal rhagweithiol a alluogir gan Ofal Trwy Gymorth Technoleg (TEC) i wella llesiant pobl, eu cynorthwyo i fyw’n annibynnol am fwy o amser a lleihau’r galw am ofal hirdymor neu ofal acíwt.

Cyflawnir hyn trwy alwadau llesiant, pecynnau Gofal Trwy Gymorth Technoleg pwrpasol, mynediad i dîm ymateb cymunedol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, cymorth digidol a help i gael mynediad i’r gymuned leol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Rydym wrth ein bodd bod gwasanaeth Delta CONNECT wedi cael ei gydnabod yng ngwobrau eleni. Fel Cyngor, gwnaethom gydnabod gwerth Gofal Trwy Gymorth Technoleg ychydig flynyddoedd yn ôl a’i botensial i gefnogi’r heriau yr oedd ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, ac felly rhoesom flaenoriaeth i drawsnewid y gwasanaeth. Yn fwy diweddar mae wedi bod wrth wraidd ein hymateb Covid, gan ein galluogi i ddiogelu’r 8,000 o bobl sy’n gwarchod trwy gyfrwng galwadau rhagweithiol, bwyd, meddyginiaeth a chymorth ymarferol wedi’i frysbennu.”

Mae CONNECT wedi’i ariannu o dan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, sy’n galluogi Bwrdd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru i weithio gyda’i gilydd i helpu i lywio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gorllewin Cymru.

Ers iddo ei lansio yn 2020 mae’r gwasanaeth wedi cael ei gydnabod fel arfer da ledled y DU gyfan. Mae’n enghraifft o uchelgais o weithio ar draws ffiniau sectoraidd i ddarparu dull radical sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda golwg ar lesiant, gofal a chymorth. Mae’r rhaglen, sydd yn awr yn ei hail flwyddyn o weithredu, â’r cyllid y cytunwyd arno tan 31 Mawrth 2022, wedi cyflymu mewn


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle