Miloedd o ffermydd Cymru i dderbyn cymorth talu’n gynnar

0
294
Lesley Griffiths MS Minister for Rural Affairs

Welsh Government News

Bydd dros 15,600 o fusnesau fferm ledled Cymru yn derbyn cyfran o dros £159.6m yfory mewn taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ymlaen llaw, yn ôl cyhoeddiad gan Lesley Griffiths y Gweinidog Materion Gwledig.
Mae’r newyddion hwn yn golygu y bydd 97% o hawlwyr yn derbyn taliad awtomatig gwerth 70% o’u gwerth hawlio llawn amcangyfrifedig.

Yn hanesyddol, mae taliadau BPS wedi dechrau o’r 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae newidiadau i reoliadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar ôl diwedd Cyfnod Gweithredu Ymadael â’r UE wedi symleiddio gofynion BPS ar gyfer 2021 a thu hwnt.

Mae hyn wedi caniatáu i daliadau Ymlaen Llaw BPS gael eu gwneud cyn mis Rhagfyr i hawlwyr cymwys BPS 2021, heb fod angen cyflwyno cais, yn hytrach na’r optio i mewn i Gynllun Cymorth BPS a weinyddwyd yn y gorffennol.

Bydd taliadau BPS 2021 Llawn ac Olaf yn dechrau o’r 15 Rhagfyr fel y cytunwyd gyda cynrychiolwyr y diwydiant.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi ei bwriad i’r Cynllun Taliad Sylfaenol redeg tan ddiwedd 2023, yn amodol ar Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU.

Mae system newydd yn cael ei chyflwyno a fydd yn symud oddi wrth gymorth incwm i ffermwyr i system sy’n talu ffermwyr am y budd amgylcheddol y maent yn ei ddarparu.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths: “Wrth i ni symud at ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi cymorth i sicrhau cynaliadwyedd a gwydnwch hirdymor y sector ffermio.

“Yn dilyn diwedd Cyfnod Gweithredu Ymadael â’r UE a thrwy ymgynghori, cyflwynais ddeddfwriaeth, a oedd yn symleiddio gofynion BPS ac a fydd yn darparu taliadau cynnar i’r mwyafrif helaeth o fusnesau fferm yng Nghymru.

“Bydd taliadau BPS 2021 yn cael eu gwneud o’r 15 Rhagfyr ymlaen, yn amodol ar ddilysu hawliad BPS yn llawn a bydd fy swyddogion yn defnyddio’r ddau fis nesaf i gynyddu nifer y ffermwyr sy’n derbyn y taliadau hyn yn gynnar yn y cyfnod talu.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle