Athro’n dod yn hyrwyddwr aer glân dros Gymru

0
413
Professor Paul Lewis

Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi cael ei enwi’n un o hyrwyddwyr diweddaraf aer glân y DU.

Mae gan Paul Lewis, Athro Emeritws yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gefndir ymchwil ym maes effeithiau amgylcheddol ar iechyd resbiradol.

Mae’n aelod arbenigol o Banel Ymgynghorol Aer Glân Llywodraeth Cymru, gan helpu i gynghori ar dargedau gronynnau mân yn barod ar gyfer Deddf Aer Glân newydd i Gymru.

Mae hefyd yn aelod o Banel Adolygiad Annibynnol ar Gyfeiriad Ansawdd Aer Cymru a Grŵp Tasg a Gorffen Llosgi Tanwydd Solet Domestig yng Nghymru.

Bydd rôl newydd yr Athro Lewis yn ei weld yn ymuno â Rhaglen Aer Glân Blaenoriaethau Strategol yr UKRI Hyrwyddwyr Aer Glân cenedlaethol presennol.

Dywedodd yr Athro Lewis ei fod wrth ei fodd gyda’i benodiad: “Bydd y rôl yn fy ngalluogi i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol o’r byd academaidd, diwydiant, llywodraeth, y GIG a’r trydydd sector ar draws Cymru i helpu i ddatblygu atebion a pholisïau newydd i leihau llygredd aer a’i effeithiau ar ein hiechyd a’n lles”.

Mae’r Rhaglen Aer Glân yn fuddsoddiad gwerth £42.5 miliwn sy’n cefnogi ymchwil ac arloesi o’r radd flaenaf er mwyn:

  • datblygu atebion ymarferol i faterion ansawdd aer heddiw
  • arfogi’r DU i fynd i’r afael â heriau ansawdd aer y dyfodol

Mae’r Athro Lewis a’i gyd-hyrwyddwyr yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer ymchwil ansawdd aer yn eu rhanbarthau priodol a byddant yn gweithio i gynyddu cydweithio ac effaith ar draws y rhaglen a’r tu hwnt iddi.

Byddant yn gweithio gydag ymchwilwyr a ariennir gan y Rhaglen Aer Glân i archwilio ffyrdd o hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth gyda defnyddwyr ymchwil perthnasol megis:

  • busnesau lleol
  • diwydiant
  • gweithwyr proffesiynol iechyd
  • awdurdodau lleol
  • y cyhoedd.
  • Byddant hefyd yn casglu gwybodaeth ar sut mae datblygiadau ymchwil, polisi a diwydiant lleol newydd ac yn cyfrannu syniadau newydd i wella effaith y rhaglen.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle