Elusennau Iechyd Hywel Dda ar beiriant swyddogaeth ysgyfaint newydd a brynwyd ar gyfer Ysbyty Withybush

0
511
Yn y llun gyda’r peiriant newydd mae Sami Abdelmoniem, Uwch Ffisiolegydd Anadlol.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi darparu peiriant gweithrediad ysgyfaint newydd, yn costio mwy na £38,000 ar gyfer adran Cardio-Anadlol Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd – diolch i roddion gan gymunedau lleol.

Gyda galw cynyddol ar wasanaethau cardio-anadlol, mae’r offer wedi’i uwchraddio yn helpu gyda diagnosis cleifion ac amseroedd triniaeth yn ogystal â gwella llif cleifion trwy’r ysbyty.

Mae’r peiriant hefyd yn galluogi trosglwyddiad electronig adroddiadau i ymgynghorwyr dros safleoedd Hywel Dda yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sydd wedi lleihau’r angen am apwyntiadau ysbyty ychwanegol.

Dywedodd Prif Ffisiolegydd Clinigol, Siân Jones: “Dyma offer rhyfeddol. Rydym yn teimlo’n lwcus iawn o’i gael a’n ddiolchgar iawn am y rhoddion sydd wedi galluogi Elusennau Iechyd Hywel Dda i brynu’r peiriant i ni.

“Rydym nawr yn gallu darparu profion llwybr anadlu ac ysgyfaint achosion mwy cymhleth, yn enwedig cleifion canser sydd ddim ar gael ar beiriannau hŷn. Bydd y peiriant newydd cyfoes hwn yn sicrhau diagnosis cyflym a chywir ar sut mae’r ysgyfaint yn gweithio ac yn caniatáu cynlluniau triniaeth addas mewn dull amserol.

“I gleifion, bydd y profion diagnostig cymhleth yn sicrhau arosiadau byrrach yn yr ysbyty neu hyd yn oed yn osgoi derbyniadau i ysbyty.”

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn gall y GIG eu darparu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallech helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle