Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi lansio eu cardiau Nadolig ar gyfer 2021-

0
419

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi lansio eu cardiau Nadolig ar gyfer 2021- a bydd yr holl elw yn cefnogi unedau gofal dwys ysbytai yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae yna dri dyluniad Nadoligaidd eleni ac mae’r elusen yn cynnwys postio yn y pris i’w gwneud hi’n haws i bobl gael eu cardiau.

Mae’r pecynnau o 10 yn ddwyieithog ac yn costio £3.95. A’r dyluniadau eleni yw ‘Seren ar y brig’, ‘Robin yr ardd a ‘Band Pres ger y goeden’.

Mae un dyluniad i bob pecyn ac mae’r cyfarchiad dwyieithog y tu mewn yn darllen: Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda/ Merry Christmas and a Happy New Year. Gallwch brynu’r cardiau ar-lein yn https://www.justgiving.com/fundraising/christmas21.

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, Tara Nickerson: “Rydym yn gyffrous iawn i ddatgelu ein cardiau Nadolig elusennol ar gyfer 2021.

“Mae’r cardiau’n ffordd berffaith o anfon eich dymuniadau Nadolig at eich anwyliaid, yn agos ac yn bell.

“A bydd pob pecyn a brynir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion a staff yn ein hunedau gofal dwys yn ardal Hywel Dda.

“Diolch am eich cefnogaeth, sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda.”

Am fanylion pellach gallwch gysylltu â thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda trwy: codiarian.hyweldda@wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle