Cronfeydd Dŵr Lliw’n lansio Llwybr Bywyd Gwyllt yn barod ar gyfer hwyl hanner tymor. [localised copy]

0
309
Lliw Owl
Mae llwybr bywyd gwyllt newydd yn cael ei lansio yng nghronfa ddŵr Lliw Isaf, gan anadlu bywyd i’r cerfluniau pren prydferth newydd a osodwyd ar y safle’n gynharach eleni; a bydd taflenni gweithgaredd newydd yn cynnig ffordd newydd o ddysgu am rai o’r creaduriaid sy’n byw yn Lliw. Mae’r cerflunwraig o Abertawe, Ami Marsden wedi creu wyth cerflun o bren derw Cymreig, ac mae’r rhain bellach yn sefyll ar y llwybr bywyd gwyllt newydd sy’n rhedeg o amgylch y cronfeydd. Mae’r cerfluniau’n cynnwys yr ystlum lleiaf, cwningen, crëyr glas, eog, draenog, dwrgi, tylluan a barcud coch.

Lliw rabbit
Bu modd cynhyrchu

‘r taflenni gweithgaredd diolch i grant o gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.  Mae’r gwelliannau eraill sydd ar y gweill ar gyfer ymwelwyr ifanc y gaeaf yma’n cynnwys gorsaf gweithgareddau i hyrwyddo dysgu trwy chwarae dychmygus; ac adfer y maes chwarae i greu ardal chwarae naturiol ysbrydoledig i’r plant.

Dywedodd Vicky Martin, Pennaeth Strategaeth Atyniadau Ymwelwyr Dŵr Cymru, “Rydyn ni wrth ein boddau i dderbyn grant Y Pethau Pwysig.  Mae chwarae yn yr awyr agored mewn amgylchedd naturiol yn fuddiol i bob rhan o ddatblygiad plant, ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles hefyd.”

Lliw Red Kite

Jayne Thomas, cyn-athrawes sy’n rhedeg Caffi Lliw gyda’i gŵr David, fu wrthi’n creu’r taflenni gweithgaredd. Dywedodd Jayne, sy’n dal i fod yn angerddol am addysg: “Rydw i wrth fy modd yn ysbrydoli dysgu ac mae’r taflenni’n llawn syniadau am ffyrdd o fwynhau treulio amser ym myd natur wrth ddysgu am fywyd gwyllt Lliw.”

Gan droi o gylch yr wyth cerflun bywyd gwyllt ar hyd y llwybr, mae’r taflenni gweithgaredd yn cynnwys ffeil ffeithiau a thaflen waith gyda gweithgareddau hwyliog ychwanegol i roi cynnig arnynt.   Mae gan bob cerflun blac sy’n cynnwys ysgythriad o beth y mae’r creadur yn ei fwyta ac olion traed i chwilio amdanynt ar hyd y ffordd. Gallwch ddefnyddio’r rhain i greu rhwbiadau.

Lliw Hedgehog

Mae’r taflenni gwaith ar gael yn Gymraeg a Saesneg o Gaffi Lliw, sydd ar agor pob dydd rhwng 9am a 4pm tan ddiwedd Hydref, wedyn rhwng 9am a 3pm rhwng Tachwedd a Chwefror. Mae’r caffi’n lle gwych i ymwelwyr aros dros ginio neu brynu paned, gyda chroeso cynnes a siop anrhegion sy’n gwerthu crefftau lleol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Caffi Lliw

Mae’r maes parcio yng Nghronfa Lliw Isaf ar agor pob dydd o 8am nes iddi nosi. Bydd yr amserau cau i’w gweld wrth fynedfa’r safle.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle