Cymerwch egwyl i EqualiTea!

0
339

Gwahoddir cyflogwyr a gweithwyr ar draws gorllewin Cymru i gofrestru ar gyfer cynllun rhwydweithio ar-lein newydd, a drefnir gan Chwarae Teg.

Nod ‘EqualiTea’ yw llenwi’r bwlch cymdeithasu a deimlir gan lawer yn y byd gwaith hybrid newydd – lle roedd y sgyrsiau ar hap yn aml yn arwain at ffyrdd newydd o feddwl, cydweithredu a syniadau ysbrydoledig.

Bydd yr EqualiTea cyntaf yn digwydd ar draws dydd Gwener y 29ain o Hydref, a gall unrhyw un sydd am ymuno gwneud hynny nawr yn www.chwaraeteg.com/digwyddiadau/equalitea. Yna fe’u cyflwynir trwy e-bost i gyd-gyfranogwr fel y gallant drefnu amser EqualiTea cyfleus!

Mae’r tîm yn Chwaae Teg yn gobeithio y bydd EqualiTea yn cychwyn lle orffennodd y Clwb Coffi a drefnwyd mor llwyddiannus gan Kate Carr. Dywedodd Kate: “Cysylltu pobl fel bod pethau da yn digwydd yw fy angerdd llwyr felly mae’n hollol wych trosglwyddo’r baton i Chwarae Teg, a chael pobl i siarad dros baned. Yn fwy nag erioed, mae angen i ni fod yn gynhwysol, yn gysylltiedig a gwneud synnwyr o sut rydyn ni i gyd yn teimlo.”

Dywedodd Sarah Rees, Partner Datblygu, Chwarae Teg: “Gan fod llawer o bobl yn dal i weithio gartref, dechreuais i feddwl. Ble mae’r prosiectau sy’n cael eu sbarduno ar hap wrth i chi giwio am y bwffe, y person hwnnw mewn cyfarfod sy’n eich ysbrydoli a chithau’n cael cyfle i sgwrsio â nhw ar y ffordd allan o’r ystafell? Soniais i am hyn yn yr ystafell drafod ar-lein ar ddiwrnod staff, ac roedd pawb yn fy ystafell fach i’n cytuno. Mae gennym hiraeth am yr amser i sgwrsio a chysylltu â phobl newydd. Dyna’n syml beth yw pwrpas EqualiTea!”

Ar gyfer unrhyw gwestiynau EqualiTea cysylltwch â: fundraising@chwaraeteg.com


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle