GTACGC yn lansio Ymgyrch Ddiogelwch Nos Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt

0
336

Heddiw, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lansio ei ymgyrch ddiogelwch Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r risgiau uwch yr adeg hon o’r flwyddyn a darparu cyngor ymarferol ar ddathlu’n ddiogel.
Ar ôl dathliadau cyfyngedig y llynedd o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae GTACGC yn cydnabod y bydd llawer yn dymuno dychwelyd i weithgareddau mwy arferol eleni. O ganlyniad, mae aelodau o’r tîm Tân ac Achub yn dymuno atgoffa eraill o rai awgrymiadau defnyddiol i helpu i gadw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau’n ddiogel.

Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi datblygu cyfres lawn o wybodaeth ar ei wefan, gan ddarparu rhagor o wybodaeth am gadw’n ddiogel yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, ynghyd â deunydd hwyliog i blant ac oedolion ifanc.
Diogelwch Noson Tân Gwyllt a Chalan Gaeaf – Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (tancgc.gov.uk)

Dywedodd Peter Greenslade, y Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol,

“Rydym am i’n cymuned gael amser da a diogel dros Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Ystyriwch y risgiau posibl i ddiogelwch sy’n gysylltiedig â Chalan Gaeaf, coelcerthi a thân gwyllt. Mae yna risg uwch o niwed difrifol i bobl ac eiddo yn ystod y misoedd hyn, ac rydym am sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i dynnu sylw at y peryglon y gallech eu hwynebu, a’r modd y gallwch leihau’r risgiau hynny trwy gymryd rhai camau syml.”

 Diogelwch Calan Gaeaf:

Mae Calan Gaeaf yn amser arbennig i blant a phobl ifanc, a gan fod cyfyngiadau’r llynedd bellach yn lleddfu, bydd yn gyfle i wisgo gwisg ffansi a cherfio pwmpenni, ond mae’r dathliad hwn yn cyflwyno risgiau tân.

Dywedodd y Pennaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru,

“Mae’r risgiau sy’n gysylltiedig â thân yn uwch yn ystod cyfnod Calan Gaeaf. Mae rhoi fflamau noeth mewn pwmpenni, ynghyd â defnyddio gwisgoedd a allai fod yn rhai nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, yn gallu arwain at drychineb.  Sicrhewch fod y marc ‘CE’ ar unrhyw wisgoedd Calan Gaeaf a ddefnyddir, ystyriwch ddefnyddio canhwyllau LED eleni, a chadwch bob llwybr dianc yn rhydd o addurniadau Calan Gaeaf. Gall camau syml wella’r siawns o gael Calan Gaeaf diogel a hapus yn sylweddol.”

  • A ydych wedi ystyried y peryglon sy’n gysylltiedig â thân a gwisgoedd Calan Gaeaf? Mae’n hanfodol bwysig bod y marc CE ar label unrhyw wisgoedd Calan Gaeaf. Er hynny, fel pob dilledyn, gall gwisgoedd fynd ar dân yn hawdd. Cadwch lygad ar blant bob amser.
  • A yw eich canhwyllau yn eich rhoi mewn perygl? Ystyriwch ddewisiadau eraill yn lle canhwyllau, er enghraifft canhwyllau LED, a fydd yn darparu’r effaith fwganllyd ofynnol ond gan hefyd ddarparu manteision ychwanegol, megis peidio â chael eu chwythu allan yn y gwynt.
  • A allwch ddianc os bydd yna dân? Cadwch yr allanfeydd yn glir ac yn ddirwystr, sy’n fater penodol yn ystod Calan Gaeaf pan fydd eitemau’n cael eu gosod o amgylch y tŷ ac yn agos at allanfeydd at ddibenion addurno.

 Diogelwch Noson Tân Gwyllt:

Yn draddodiadol, mae noson Tân Gwyllt yn cael effaith drom ar GTACGC a’i asiantaethau partner. O ganlyniad, mae’r Gwasanaeth yn cynghori pawb i barchu eu cymunedau, amddiffyn eu hunain ac eraill rhag niwed, yr amgylchedd a’r gwasanaethau brys, a mwynhau digwyddiadau trwy ddilyn rhagofalon diogelwch sylfaenol.

Bob blwyddyn, mae GTACGC yn gweld coelcerthi peryglus yn cael eu codi. Gall y coelcerthi hyn gynnwys eitemau sy’n wenwynig, ac eitemau eraill sy’n beryglus i’r sawl sy’n gwylio, p’un a yw hynny’n golygu risg o ffrwydrad, neu rywbeth arall. Nid yn unig y mae’r coelcerthi hyn yn peryglu’r cyhoedd, ond gall coelcerthi sydd wedi’u hadeiladu’n wael effeithio’n wael iawn ar yr amgylchedd, a bydd aelodau’r timau atal tanau bwriadol a diogelwch cymunedol yn cyd-weithio â’r heddlu a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod cymunedau’n cael eu cadw’n ddiogel.

Mae gan Richard Vaughan Williams, Rheolwr Atal Tanau Bwriadol ar gyfer GTACGC brofiad helaeth o weithio gydag asiantaethau partner ar noson tân gwyllt, ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o’r peryglon y gellir eu hwynebu.

“Efallai y bydd naws ychydig yn wahanol i Noson Tân Gwyllt eleni o gymharu â’r llynedd, pan oedd y pandemig yn ei anterth, ac er ein bod yn parhau i gynghori pobl i beidio â chynnal eu harddangosfeydd personol eu hunain, rydym yn deall y gallai fod llai o arddangosfeydd cyhoeddus i fynd iddynt o hyd. Mae yna beryglon difrifol yn gysylltiedig â choelcerthi, yn enwedig rhai nad ydynt wedi’u trefnu’n broffesiynol. Dylai coelcerthi fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon, felly rydym wedi darparu gwybodaeth a fydd yn eich cynorthwyo i sicrhau eich bod chi, eich teulu, a’n cymunedau yn cael eu cadw’n ddiogel.”

Yn draddodiadol, bydd problemau’n codi hefyd wrth ddefnyddio tân gwyllt, yn enwedig pan fyddant yn mynd i’r dwylo anghywir. Mae yna bethau syml y gellir eu gwneud hefyd i sicrhau nad yw’r rheiny sy’n gwylio yn cael eu hanafu ac nad yw’r amgylchedd o’ch cwmpas yn cael ei niweidio yn ystod noson tân gwyllt.

Mae tân gwyllt yn cael eu graddio mewn categorïau, bydd ganddynt bellteroedd diogelwch gwahanol yn ogystal â chyfarwyddiadau penodol y dylid cadw atynt er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cadw’n ddiogel. Er enghraifft, mae angen pellter diogelwch o 25 metr o leiaf ar lawer o rocedi, sef maint cyfartalog pwll nofio mewn canolfan hamdden. Gofalwch eich bod yn eu prynu gan adwerthwr dibynadwy bob amser, a dilynwch gyfarwyddiadau tân gwyllt unigol. Pryder arbennig yw pan fydd tân gwyllt gradd ‘diwydiannol’, a waherddir i’w gwerthu i’r cyhoedd, yn mynd i’r dwylo anghywir, a all achosi sefyllfa beryglus iawn.

Ychwanegodd Rhingyll yr Heddlu, Terri Harrison o’r Tîm Atal Tanau Bwriadol,

“Bydd yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i sicrhau y gallwn, gyda’n gilydd, gadw ein cymunedau’n ddiogel eleni.  Mae camddefnyddio tân gwyllt yn peri pryder arbennig, yn ogystal â defnyddwyr amatur sy’n cael gafael ar dân gwyllt o safon broffesiynol ac yn eu defnyddio. Mae hyn yn creu risg enfawr i’n cymunedau, ac mae hefyd yn anghyfreithlon. Os penderfynwch ddefnyddio tân gwyllt, gofalwch na fyddwch yn gwneud hynny mewn man cyhoeddus, a dilynwch y cod tân gwyllt, sydd i’w weld ar ein gwefan, a’u prynu gan adwerthwr dibynadwy – byddwch yn ddiogel, byddwch yn gyfreithlon.” 

 Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am gadw’n ddiogel yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, ynghyd â deunydd hwyliog i blant ac oedolion ifanc.
Diogelwch Noson Tân Gwyllt a Chalan Gaeaf – Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (tancgc.gov.uk)

Gallwch hefyd ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o negeseuon diogelwch.

Twitter – @mawwfire

Facebook – @mawwfire

Instagram – mawwfire_rescue


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle