Comisiwn cyfansoddiadol annibynnol i ystyried dyfodol Cymru yn gyfle i ddadlau dros annibyniaeth – Plaid

0
308
Rhys ab Owen MS

Llefarydd Plaid dros y cyfansoddiad Rhys ab Owen AS yn croesawu cyd-gadeiryddion newydd Laura McAllister a Rowan Williams

Wrth ymateb i gyhoeddiad yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams fel cyd-gadeiryddion Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol i ystyried dyfodol Cymru, meddai Rhys ab Owen AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad a Chyfiawnder: 

“Mae Comisiwn Cyfansoddiadol yn gyfle i gynnal y sgwrs genedlaethol fwyaf eang am ddyfodol Cymru yn hanes datganoli. 

“Rydym yn croesawu’r Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams i’w rolau ac yn dymuno’n dda iddynt yn fel Cyd-gadeiryddion. 

“Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol gyda’r Comisiwn a’i waith, gan ddefnyddio pob cyfle y mae’n ei gyflwyno i ddadlau dros annibyniaeth ac y bydd buddiannau ein cenedl yn cael eu gwasanaethu orau pan fydd penderfyniadau dros ddyfodol Cymru yn cael eu rhoi yn nwylo Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle