Mae’r cefndryd Bryan Hughes a Gerald Brace yn rhedeg ym Marathon Casnewydd i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Canser y Prostad yn Ysbyty Glangwili.

0
265
Gerald and Bryan marathon fundraiser

Mae’r par yn cymryd rhan ym Marathon ABP Casnewydd Cymru ar 24 Hydref i ddweud diolch am y driniaeth a dderbyniodd tad Bryan, Delroy Hughes, yn Ysbyty Glangwili ar ôl iddo gael diagnosis o Ganser y Prostad ym mis Gorffennaf 2019.

Dywedodd Gerald: “Pan gafodd Delroy ddiagnosis roedd yn sioc ac yn bryder enfawr iddo fe a’i deulu. Ond diolch i’r gweithredu a’r driniaeth gyflym yn Ysbyty Glangwili, a radiotherapi yn Ysbyty Singleton, mae Delroy bellach wedi gwella’n llwyr.”

Gerald and Bryan marathon fundraiser

Bydd Bryan a minnau’n rhedeg ym Marathon Casnewydd i godi cymaint o arian a phosib i roi rhywbeth yn ôl i Uned Canser y Prostad am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud,” ychwanegodd Gerald, sy’n hyfforddwr personol a therapydd tylino chwaraeon 51 oed o Sageston, Dinbych-y-pysgod.

Gerald and Bryan marathon fundraiser

Mae Bryan, 42, Goruchwyliwr Adran Trac ar gyfer Network Rail, wedi cwblhau Marathon Casnewydd o’r blaen, yn 2018. Mae Gerald eisoes wedi cwblhau dau farathon, yn ôl yn 2014.

Dywedodd Gerald: “Mae ymarfer yn mynd yn dda. Rydyn ni’n dau hyd at 16 milltir ac yn cyrraedd diwedd yr ymarfer gyda 18 a 20 milltir i’w wneud yn ystod yr wythnosau nesaf!”

Mae’r pâr, yn y llun gyda Delroy Hughes, yn gobeithio codi £1,000 ac maen nhw’n cynnal raffl ym mis Hydref i helpu i godi arian.

Os hoffech chi gyfrannu at her Bryan a Gerald, ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/gerald-brace

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd

Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod am ddiolch i Bryan a Gerald am godi arian.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau’n ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle