Prosiect yn cefnogi dros 300 o bobl ifanc i ddod o hyd i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant

0
243

Mae prosiect sy’n cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cefnogi dros 300 o bobl ifanc i’w helpu i gael mynediad at naill ai gyflogaeth, addysg amser llawn neu hyfforddiant.

Gweithiodd y prosiect, a elwir yn Cam Nesa, yn benodol gyda phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yr oeddent wedi’u hymddieithrio rhag y farchnad swyddi ac nad oeddent mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (NEET).

Darparodd Gweithwyr Ieuenctid, a gyflogwyd gan y prosiect, gymorth wedi’i deilwra i’r bobl ifanc, fel eu helpu i chwilio am waith, ysgrifennu CV, technegau cyfweliad a chwblhau ceisiadau am swyddi. Hefyd, byddent yn darparu cyngor ac arweiniad yn ôl yr angen, gan gynnwys eu cyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol.

Ers lansio’r prosiect yn 2018, mae’r prosiect wedi cefnogi 243 o bobl ifanc i ddod o hyd i gyflogaeth a 58 i ddod o hyd i addysg neu hyfforddiant.

Meddai un person ifanc o Gastell-nedd Port Talbot a dderbyniodd gymorth drwy’r prosiect, “Rwy’n hynod ddiolchgar am y cymorth a’r help mae tîm Cam Nesa. Gwnaeth y tîm wella fy CV, darparu hyfforddiant i mi a fy helpu gyda sgiliau cyfweld, a gwnaeth hynny i gyd wedi fy helpu i gael y swydd.”

Er bod prosiect Cam Nesa bellach wedi dod i ben, bydd Gwasanaeth Ieuenctid y cyngor yn parhau i ddarparu cymorth i bobl ifanc 16 i 18 oed NEET drwy ei dîm CMC (Cadw Mewn Cysylltiad). Mae’r tîm hefyd yn darparu cymorth cyflogadwyedd i bobl ifanc 18 i 25 oed mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith yn ei chanolfannau yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob person ifanc, fel y gallant fod y gorau y gallant fod.”

“Trwy ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’r rheini nad ydynt yn chwilio am gyfleoedd gwaith neu hyfforddiant, gallwn eu helpu i roi’r hyder, yr arweiniad a’r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen arnynt i ddilyn gyrfa o’u dewis.

“Rwy’n hynod falch y byddwn yn parhau i ddarparu’r gefnogaeth hon sy’n fawr ei hangen, drwy ein tîm CMC.”

Prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop oedd Cam Nesa a gynhaliwyd rhwng 2018 a2021. Arweiniwyd y prosiect gan Gyngor Sir Penfro ac fe’i cyflwynwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Ceredigion, Sir Gâr, Abertawe a Chastell-nedd.

Os gallech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod elwa o gymorth Tîm CMC Cyngor Castell-nedd Port Talbot, e-bostiwch youth.service@npt.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle