Da iawn i Nigel Parlor o Bont Myrddin, yn Sir Benfro, sy’n rhedeg Marathon Casnewydd i godi arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl y GIG yn y sir.

0
259
Nigel Parlor marathon fundraiser

Mae Nigel, sy’n gweithio i Network Rail, wedi bod yn hyfforddi ers mis Mehefin ar gyfer y digwyddiad, a gynhelir ar 24 Hydref.

Wrth iddo herio’r cwrs, mae Nigel yn codi arian ar gyfer Ward St Caradog yng Nghanolfan Bro Cerwyn yn Hwlffordd.

Dywedodd: “Rwyf wedi bod yn dioddef fy hun gyda phryder ac iselder am y flwyddyn ddiwethaf, felly teimlais ei fod yn faes priodol i’w gefnogi.

“Rwy’n ymgymryd â’r her o redeg marathon Casnewydd i godi arian ar gyfer yr uned iechyd meddwl lleol ac i wneud pobl yn ymwybodol o bwysigrwydd siarad am eu hiechyd meddwl.”

Ychwanegodd Nigel, sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn Penwythnos Cwrs Hir a digwyddiadau rhedeg eraill: “Rwy’n edrych ymlaen at yr her a bod yn rhan o dîm i godi arian ar gyfer achos gwerth chweil.”

I gefnogi Nigel, ewch i www.justgiving.com/fundraising/nigel-parlor.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod am ddiolch i Nigel am ei ymdrechion i godi arian.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff y GIG lleol, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle