Diolch i roddion gan gymunedau lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu sganiwr pledren newydd ar gyfer Ward Tywi yn Ysbyty Glangwili.

0
258

Mae’r sganiwr Verathon, ynghyd â throl symudol ac argraffydd, wedi’i ddarparu ar gost o £7,000.

Dywedodd Uwch Brif Nyrs y Ward, Emma O’Rourke, y bydd gallu cael eu sganiwr eu hunain yn sicrhau diagnosis a thriniaeth brydlon ar ward feddygol brysur.

Meddai Emma: “Mae’r sganwyr hyn yn anfewnwthiol, yn ddi-boen ac yn syml i’w defnyddio ac yn helpu i ganfod problemau bledren yn gynnar, gan leihau’r risg o haint. Mae hyn yn golygu profiad claf mwy cyfforddus a gwell.

Bydd y sganiwr newydd hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion. Rydyn ni wrth ein boddau ei dderbyn i’n helpu gyda thriniaethau amserol ac i gefnogi diagnosis cychwynnol i glinigwyr. “

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn. ”

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle