Erlyn Propel gan yr Heddlu Wedi’i Ysgogi’n Wleidyddol 

0
245
Neil McEvoy AM

Bydd Neil McEvoy, Arweinydd Propel a Chynghorydd Caerdydd, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd, ddydd Iau 21 Hydref am 10am, i amddiffyn ei hun am adael ei gartref ar 15fed Chwefror 2021.

Meddai Neil McEvoy,

” Mae gan y gŵyn a’r erlyniad gymhelliant gwleidyddol. Gofynnaf i chi enwi un aelod o’r Senedd na adawodd ei gartref yn ystod y Cyfnod Clo? Cafodd Alun Davies AS, Darran Millar AS a Paul Davies AS eu dal yn meddwi yn y Senedd yn groes i’r rheoliadau, roedd Lee Waters yn teithio’n ôl a ‘mlaen rhwng ei ddau gartref, roedd Rhiannon Passmore yn ymweld â’i chariad yn Lloegr, roedd Vaughan Gething yn eistedd yn bwyta sglodion mewn sir wahanol i’r lle mae’n byw, yn groes i’r rheolau ar y pryd ac wrth gwrs roedd y Prif Weinidog ym mhobman, fel y dylai fod, ond weithiau heb fod yn arfer mesurau ymbellhau’n gymdeithasol.

” Gadewais fy nghartref a theithio milltir i’r gwaith a nawr rwy’n cael fy erlyn. “

Mewn fideo a gylchredwyd ar y cyfryngau newydd https://www.youtube.com/watch?v=5p4oKAf6irc , datgelodd Neil McEvoy nad yw Heddlu De Cymru wedi darparu unrhyw ddatganiadau llawn iddo ynglŷn â’r honiad. Mae’r honiad hefyd wedi newid rhwng y ddirwy sy’n cael ei rhoi a’r achos yn y llys.

” Rwy’n rhannu fy natganiad amddiffyn i’r llys yn gyhoeddus. Gall y cyhoedd farnu drostynt eu hunain.

” Byddaf yn gofyn i alw Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru a Phennaeth y Gwasanaethau Rheoleiddio fel tystion ac wrth gwrs yr achwynydd anhysbys unwaith eto.

Ychwanegodd Neil, “Diolch byth, mae’r gyfundrefn gyfreithiol yn y DU yn fy nghaniatáu i gyflwyno fy achos gerbron y llys gyda’r hawl briodol i apelio yn iawn, nid fel y Pwyllgorau amheus sy’n frith yng ngwleidyddiaeth Cymru. Yr hyn sydd gennym yma yw gwladwriaeth Gymraeg y ‘Brawd Mawr’ yn ceisio mygu gwrthwynebiad gwleidyddol. Ac mae gennym Brif Gwnstabl gwleidyddol yn Ne Cymru sy’n fwy na pharod i chwarae ei ran.

” Cipiwyd ein rhyddid oddi wrthym. Rhaid inni ymladd i’w cael yn ôl. Mae mynd i’r llys ddydd Iau yn gam ar y daith i ymladd yn ôl. Mae Propel ar flaen y gad yn y frwydr honno. “


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle