“Gyda’n gilydd gallwn gyflawni pethau rhyfeddol” meddai’r Radiolegydd Ymgynghorol Hashim

0
280
Hashim Samir

Mae Radiolegydd Ymgynghorol Hywel Dda yn lleisio sut mae COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd creu cymuned ar gyfer staff du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Mae Hashim Samir, a anwyd yn Irac, sydd wedi gweithio yn Ysbyty Glangwili ers 10 mlynedd, yn mynegi y dylai’r bwrdd iechyd weld amrywiaeth fel cryfder, ar Ă´l y pandemig.

“Roedd yn amser brawychus i bobl o leiafrifoedd ethnig weld meddygon a nyrsys o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn gweithio trwy gydol y pandemig.

“Yn anffodus roeddent yn colli eu bywydau er mwyn amddiffyn y cyhoedd a gofalu am eu cleifion.”

Mae Hashim yn gweithredu fel Is-gadeirydd grĹľp ymgynghorol y bwrdd iechyd ar gyfer staff Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a ddechreuwyd gan y Cadeirydd, Maria Battle.

Mae Hashim yn gweithredu fel Is-gadeirydd grĹľp ymgynghorol y bwrdd iechyd ar gyfer staff Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a ddechreuwyd gan y Cadeirydd, Maria Battle.

“Rydyn ni wedi creu rhwydwaith i staff du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ymgysylltu â nhw a gweld, sut gallwn ni eu cefnogi.

“Mae’r bobl hyn yn aberthu eu bywydau a’r amser gyda’u teuluoedd i wasanaethu’r cyhoedd. Mae gwir angen i ni greu ymdeimlad o berthyn.”

Mae 41% o’r meddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Mae hyn yn cynnwys 38% o ymgynghorwyr, a 59% (bron i ddwy ran o dair) o’n meddygon arbenigol a’n meddygon gradd feddygol o gefndiroedd ethnig.

“Rydyn ni’n ceisio pontio’r bwlch hwnnw mewn gwirionedd, roedd yn bodoli o’r blaen, ac mae’n debyg cyn i’r pandemig nad oedd neb wedi talu llawer o sylw i hynny.

“Unwaith eto, oherwydd y pandemig, gall pobl sylweddoli bod pobl yn rhoi eu bywydau ymlaen mewn gwirionedd. Mae’r gwerthfawrogiad wir yn mynd y tu hwnt i glapio.

“Mae’n mynd i fwy, i deimlo eu bod nhw’n rhan o’r boblogaeth fwy, y teulu mawr Gymraeg.”

Roedd diddordeb arbennig Hashim cyn pandemig, yn cynnwys radioleg ymyriadol. Mae hyn yn cynnwys biopsïau neu ddraenio arennau a phledrennau bustl o gleifion nad yw’n ffit am lawdriniaeth.

“Roedd yna gyfnod o saib ar ddechrau’r pandemig, doedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd i gleifion canser.

“Bu farw fy mam o ganser y fron a’r hyn sy’n dal i bigo yw bod ei diagnosis wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa gartref yn Irac.

“Felly, roedd yn benderfyniad personol pan gyhoeddwyd cloi. Fe wnaethon ni gysylltu â phob gwasanaeth canser a dweud ein bod ni’n cario ymlaen fel arfer. ”

Mae Hashim a’i dĂŽm, sy’n cynnwys tair nyrs ac un cynorthwyydd, wedi gofalu am dros 200 o gleifion dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Doedd hi ddim yn hawdd. Yn enwedig pan soniwyd bod y brechlyn yn anniogel. Rwy’n cofio fy mhlant yn gofyn imi beidio â chael y brechlyn.

“Fe ofynnon nhw: “Dadi ydych chi’n siĹľr ei fod yn ddiogel?”, dywedais wrthyn nhw, ar ddiwedd y dydd, penderfynais ddod yn feddyg.

“Mae yna risg enfawr wrth ddelio â chleifion, yr unig beth yw bod yn gall a mynd amdani.”

Dywed neges Hashim i gydweithwyr: “Rwy’n wirioneddol gredu ein bod fel bodau dynol yn gwneud ein gorau pan fydd gennym ymdeimlad o berthyn.

“Mae angen i ni helpu ein staff lleiafrifoedd ethnig i deimlo’n rhan o’r gymuned ryfeddol hon. Dwi ddim yn hoffi gweld pobl, dinasyddion Prydain, yn teimlo fel tramorwyr.

“Dydyn ni ddim yn dramorwyr. Rydym yn rhan yn unig o’r gymuned fawr hon a gyda’n gilydd gallwn gyflawni pethau rhyfeddol.”

Gwrandewch ar bodlediad llawn Hashim yma, mae hefyd ar gael ar Spotify. [Cofnodwyd ym mis Awst 2021]


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle