- Rhaglen o ddigwyddiadau byw a phrofiadau digidol, ar-lein a darlledu ledled y DU
- Cydweithio creadigol ar draws meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg
- Rhaglenni dysgu a chyfranogiad cynulleidfaoedd â chyrraedd eang
Cyhoeddwyd UNBOXED: Creativity in the UK heddiw, sef dathliad o greadigrwydd a fydd yn digwydd ledled y DU yn 2022, wedi’i gynllunio i gyrraedd miliynau o bobl a dod â nhw at ei gilydd. Mae’n cynnwys digwyddiadau, gosodiadau a phrofiadau digidol ar raddfa fawr, fydd yn rhad ac am ddim ac ar gael yn fyd-eang yn arddangosfa fwyaf uchelgeisiol y DU o gydweithio creadigol.
Mae UNBOXED yn cynnwys deg o brosiectau creadigol aml-safle a digidol ar raddfa fawr sy’n rhannu syniadau a phosibiliadau newydd ar gyfer y dyfodol, wedi’u cynhyrchu gan rai o’r meddyliau disgleiriaf ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg. Bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal o 1 Mawrth i 2 Hydref 2022 – o Ynysoedd Allanol Heledd i Dover ac o Omagh i Abertawe, ac ar draws y cyfryngau traddodiadol ac ar-lein.
Caiff UNBOXED: Creativity in the UK ei ariannu a’i gefnogi gan bedair llywodraeth y DU ac mae wedi’i gomisiynu a’i gyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Belfast, Cymru Greadigol ac EventScotland.
Bydd y rhaglen yn dechrau yn Paisley ym mis Mawrth pan fydd cynulleidfaoedd mewn trefi a dinasoedd ledled y DU yn ymgolli mewn 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes, o’r Glec Fawr hyd heddiw, gan ddefnyddio technoleg mapio taflunio arloesol ynghyd â barddoniaeth, cerddoriaeth a gwyddoniaeth (About Us).
- Bydd prosiect ar draws yr Alban sy’n cynnwys Gerddi Annisgwyl, ffermydd fertigol, digwyddiadau cerddoriaeth am ddim a rhoi planhigion yn rhoddion yn ail-ddychmygu’r ŵyl gynhaeaf flynyddol ar gyfer yr 21ain ganrif, o Caithness i Dumfries (Dandelion).
- Bydd cynulleidfaoedd ym mhedair prifddinas y DU yn cael eu trochi mewn sain a golau mewn gwaith celf a fydd yn cael ei brofi gyda’r llygaid ar gau sy’n archwilio potensial diderfyn y meddwl dynol (Dreamachine).
- Bydd cymunedau o bob cwr o Gymru, pobl greadigol a stiwdio gynhyrchu Hollywood yn cydweithio i lunio a rhannu stori wedi’i gosod 30 mlynedd yn y dyfodol ar draws drama deledu, llwyfannau digidol a digwyddiadau byw mewn tri lleoliad yng Nghymru (GALWAD: A story from our future).
- Gwahoddir 20,000 o bobl i greu gwaith celf awyr agored enfawr drwy oleuo rhai o dirweddau eithriadol y DU, gan ddefnyddio technoleg newydd i greu profiadau ar-lein pwerus (Green Space Dark Skies).
- Bydd fersiwn ar raddfa o gysawd yr haul, wedi’i llwyfannu ar draws llwybrau cerfluniau 10km o hyd yng Ngogledd Iwerddon a Chaergrawnt yn ein gwahodd i ystyried ein perthynas â’n gilydd o safbwynt ein lle yn y gofod (Our Place in Space).
- Bydd gardd goedwig o blanhigion byw a choed pensaernïol yn ymddangos yn ninas Birmingham i ddathlu tarddiad byd-eang planhigion y DU a’u poblogaethau (PoliNations).
- Bydd platfform alltraeth o Fôr y Gogledd sydd wedi’i ddadgomisiynu yn cael ei drawsnewid yn osodiad celf drochi gyhoeddus ac yn ddathliad o dywydd Prydain yn nhref arfordirol Weston-super-Mare, gan awgrymu posibiliadau newydd ar gyfer strwythurau nad ydynt yn cael eu defnyddio (SEE MONSTER).
- Bydd realiti estynedig, datblygiadau newydd mewn technoleg rhyngrwyd 3D a phobl ifanc greadigol yn llunio un o’r prosiectau hanes byw ac archifol mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed (StoryTrails).
- Bydd gŵyl o fywyd nos a gwrth-ddiwylliannau a ysbrydolwyd gan y Lleuad ac a grëwyd mewn cydweithrediad â’r Lleuad yn teithio fel rhan o orymdaith o amgylch Lloegr gyda’r bwriad o ddychmygu dyfodol gwell ar gyfer pobl ifanc ac mewn cydweithrediad â nhw (Tour de Moon).
Yn ganolog i UNBOXED ceir cyfleoedd dysgu a chyfranogiad cyhoeddus helaeth, gan gyrraedd cannoedd o filoedd o blant ysgol, pobl ifanc a chymunedau. Bydd y cyfleoedd hyn yn cynnwys gwahoddiadau i gymryd rhan, llunio a chyflwyno UNBOXED drwy gystadlaethau barddoniaeth a chodio mewn ysgolion, gweithdai cymunedol, prosiectau gwyddoniaeth ar gyfer dinasyddion a chyfleoedd cyflogaeth a datblygu sgiliau newydd ar gyfer pobl greadigol a gweithwyr llawrydd amrywiol. Mae partneriaethau hefyd gyda’r BBC, y Cyngor Prydeinig a’r RSA (Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, Gweithgynhyrchu a Masnach) a fydd yn hyrwyddo sgyrsiau byd-eang am swyddogaeth creadigrwydd ac arloesedd mewn cymdeithas.
The Prime Minister Boris Johnson said:
“From the Commonwealth Games in Birmingham to the Queen’s Platinum Jubilee, 2022 is going to be a year of celebrating UK at its best. And today, we are launching our fantastic new festival – UNBOXED: Creativity in the UK.
“A celebration of UK ingenuity, energy, innovation, optimism and all-round creative genius, it will be unlike anything else that has been seen before. Light shows, sculpture trails and a festival of ideas are just some of the spectacular events that will take place in locations
Tracy Meharg, Permanent Secretary in the Department for Communities Northern Ireland said:
“This a chance to experience cutting edge technology in an accessible and inclusive project developed right here on our doorstep. Our Place in Space celebrates local talent and creativity on a grand scale, and we look forward to sharing it widely at home and with others in England, Scotland, Wales and around the world. We in turn will benefit from the wider festival commissions which are being delivered at some wonderfully diverse geographical locations.”
Scottish Government’s Culture Minister Jenny Gilruth, said:
“Scotland’s creative and events industries have a world-class reputation and the inspirational programme of activities planned by Dandelion showcases the breadth of that artistic vision. It’s hugely important too that, in terms of accessibility, the Dandelion offering will be available to audiences right across Scotland.
“Culture has a vital role to play in driving our recovery from the pandemic – the celebration of creativity and innovation through our participation in UNBOXED aims to support Scotland’s collective wellbeing and the events and culture sectors in that endeavour.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Mae hwn yn fuddsoddiad yn niwydiannau creadigol Cymru, sy’n cyfrannu at ein hunaniaeth genedlaethol gref ac unigryw ac yn helpu i hyrwyddo Cymru, ein diwylliant a’n talent i’r byd.
“Rydym wedi ymrwymo i greu dyfodol sy’n gryfach ac yn decach i bob un ohonom – mae gweithgarwch creadigol ac ymgysylltiad cymunedol GALWAD yn weledigaeth gyffrous o sut y gallai’r Gymru hon edrych.
“Edrychaf ymlaen i weld pa greadigaethau cyffrous sy’n cael eu datgelu yn ystod 2022 ac i groesawu pedwar o gomisiynau eraill Unboxed i Gymru flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Martin Green CBE, Prif Swyddog Creadigol UNBOXED: Creativity in the UK: “Mae cannoedd o bobl greadigol o feysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg yn creu digwyddiadau a phrofiadau ar-lein anhygoel a bythgofiadwy ar gyfer miliynau o bobl yn rhaglen greadigol gyhoeddus fwyaf a mwyaf uchelgeisiol y DU hyd yma. Mae UNBOXED yn gyfle digynsail ac amserol i bobl ddod at ei gilydd ledled y DU a thu hwnt, gan gymryd rhan mewn prosiectau rhyfeddol sy’n ymdrin â phwy ydym ni gan hefyd ymchwilio i’r syniadau a fydd yn diffinio ein dyfodol.”
Dywedodd y Fonesig Vikki Heywood DBE, Cadeirydd y Bwrdd, UNBOXED: Creativity in the UK: “Wrth i gymdeithas addasu i’r chwyldro digidol sy’n esblygu’n barhaus ac wrth i ni weld ein creadigrwydd cynhenid yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein holl ddyfodol, bydd UNBOXED yn archwilio pŵer cydweithredu i greu posibiliadau newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae. Bydd y rhaglen yn cefnogi adferiad economaidd yn y DU drwy ailfywiogi trefi a dinasoedd ac ehangu ein cysylltedd drwy gymunedau ar-lein newydd. Wrth i’r rhaglen ddatblygu, bydd yn ein diddanu ac yn ein hysbrydoli i ddychmygu beth allai fod yn y dyfodol drwy gyfuno pwerau creadigol gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg.”
UNBOXED: Creativity in the UK
1 Mawrth i 2 Hydref 2022
unboxed2022.uk
I gael rhagor o wybodaeth, ceisiadau am gyfweliadau a delweddau:
Jeanette Ward | UNBOXED: Creativity in the UK | jeanette.ward@festival2022.uk | 07729 930 812
Clair Chamberlain | Bread & Butter PR | clair@breadandbutter.com | 07957 272 534
UNBOXED: CREATIVITY IN THE UK – DEG COMISIWN
About Us | Caernarfon, Paisley, Derry–Londonderry, Luton a Hull
Bydd UNBOXED: Creativity in the UK yn dechrau yn Paisley gydag About Us, cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ar raddfa fawr fydd yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith drwy 13.8 biliwn o flynyddoedd o’n hanes o’r Glec Fawr hyd heddiw. Mae’n archwilio’r ffyrdd diddiwedd yr ydym wedi’n cysylltu â’r bydysawd, y byd naturiol a’n gilydd.
Mae About Us yn cyfuno sioeau byw a gosodiadau amlgyfrwng gydag animeiddio, barddoniaeth, cerddoriaeth wreiddiol a pherfformiadau byw. Bydd y sioe fyw yn trawsnewid adeiladau a thirnodau mewn pum tref a dinas – Caernarfon, Paisley, Derry–Londonderry, Luton a Hull – yn gynfas enfawr sy’n cynnwys animeiddiadau pwrpasol, technoleg mapio taflunio arloesol a sgôr newydd gan y cyfansoddwr Nitin Sawhney wedi’i pherfformio gan gorau lleol. Bydd y gosodiad awyr agored yn cynnwys cyflwyniadau o gystadleuaeth barddoniaeth a chodio cyfrifiadurol ledled y DU ar gyfer plant a phobl ifanc, a lansiwyd heddiw. Bydd About Us yn cael ei gynnal am wythnos ym mhob lleoliad, a bydd y gosodiadau amlgyfrwng ar agor drwy gydol y dydd a nifer o berfformiadau am ddim bob nos.
Mae About Us yn cael ei greu gan grŵp 59 Productions ac yn cael ei arwain gan stiwdio ddylunio a chwmni cynhyrchu 59 Productions; Stemettes, sefydliad sy’n dod â menywod ifanc a phobl ifanc anneuaidd i yrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg; a The Poetry Society, un o sefydliadau celfyddydol mwyaf deinamig y DU sy’n hyrwyddo barddoniaeth ar gyfer pob oedran.
Dywedodd Lysander Ashton, Cyfarwyddwr Prosiect About Us: “Ym mhob man rydym yn edrych mae yna rwydweithiau o gysylltiad ac ystyr. Rydym yn llwch sêr: gellir olrhain pob atom yn ein cyrff yn ôl i ofod ac amser dwfn; mae ein coeden deulu yn ein cysylltu â phob peth byw ar y Ddaear ac mae ein bywydau’n cael eu diffinio gan ein perthynas ag eraill. Bydd About Us yn taflu goleuni ar yr hud a’r rhyfeddod a ddatgelir mewn gwrthrychau a digwyddiadau pob dydd mewn trefi a dinasoedd ledled y DU.”
Dandelion | Ledled Yr Alban
Mae Dandelion yn ail-ddychmygu gŵyl y cynhaeaf ar gyfer yr 21ain ganrif.
Gan ddechrau ym mis Ebrill ac yn dilyn y tymor tyfu, mae Dandelion yn rhannu rhaglen o fwyd, cerddoriaeth a syniadau gyda chymunedau ledled yr Alban. Yn ganolbwynt iddi mae Ciwbiau o Olau Parhaus, ffermydd fertigol bach lle mae dylunio, arbenigedd garddwriaethol ac arloesedd technolegol yn cyfuno. Bydd ‘Gerddi Annisgwyl’ yn codi o’r Gororau i’r Ucheldiroedd, mewn lleoliadau trefol a gwledig ac o ynysoedd i gamlesi a safleoedd dociau adfeiliedig, sy’n dangos y gall hyd yn oed y gofod mwyaf annhebygol fod yn lle i dyfu cynnyrch ar gyfer cymunedau lleol. Bydd cerddoriaeth newydd wedi’i hysbrydoli gan dwf planhigion a newid tymhorol yn cael ei rhannu mewn digwyddiadau byw gan gynnwys dwy ŵyl gerddoriaeth a bwyd fawr yn Glasgow ac Inverness. Byd y genhedlaeth nesaf o dyfwyr hefyd yn dod yn ddinasyddion sy’n wyddonwyr, a bydd 100,000 o blant ysgol a phobl ifanc yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arbrawf tyfu cymunedol mwyaf a gynhaliwyd erioed yn yr Alban. Bydd Dandelion yn dod i uchafbwynt wrth i’r tymor tyfu ddod i ben, a bydd cannoedd o Wyliau Cynhaeaf cymunedol – yn ail-ddychmygu’r dathliad diwylliannol hwn ar gyfer yr 21ain ganrif.
Arweinir Dandelion gan Grŵp Dandelion, a gomisiynwyd gan EventScotland ac a ariennir gan Lywodraeth yr Alban.
Dywedodd Angus Farquhar, Cyfarwyddwr Creadigol, Dandelion,”Mae Dandelion wedi’i ysgogi gan y cysyniad o ‘Hau, Tyfu a Rhannu’, a bydd yn dwyn ynghyd cerddorion, gwyddonwyr, artistiaid, gwneuthurwyr, perfformwyr a thechnolegwyr mewn gweithgareddau tyfu traws-genhedlaeth ac yn creu digwyddiadau gwreiddiol a gwirioneddol leol ledled yr Alban – o’i hynysoedd mwyaf anghysbell i ganol ei dinasoedd mawr – yn ogystal ag ar-lein drwy ffilmiau a gweithgareddau digidol. Mae Grŵp Dandelion yn cynrychioli cyfranogiad trefol a gwledig a’r nod drwy’r pleser syml o dyfu a rhannu bwyd da a cherddoriaeth newydd yw ailsefydlu’r cynhaeaf fel gŵyl flynyddol o bwys i bawb.”
Dreamachine | Belfast, Caerdydd, Caeredin a Llundain
Mae Dreamachine yn waith celf a welir gyda’ch llygaid ar gau sy’n ystyried potensial diddiwedd y meddwl dynol mewn math newydd pwerus o brofiad cyfunol.
Fe’i hysbrydolwyd gan ddyfais arloesol yr artist radical Brion Gysin yn 1959: y ‘Dreamachine’, dyfais gartref â golau’n crynu sy’n creu dadrithiadau byw, patrymau caleidosgopig a ffrwydradau o liw ym meddwl y gwyliwr. Dros 60 mlynedd ar ôl ei ddyfeisio yn wreiddiol, mae cysyniad Gysin, a gynlluniwyd fel y “gwaith celf cyntaf i’w brofi gyda’ch llygaid ar gau”, wedi ei ail-ddychmygu’n radical yn rhaglen gyfranogol fawr, sy’n cynnwys profiad trochi byw a fydd yn mynd ar daith o amgylch pedair prifddinas y DU. Gwahoddir cynulleidfaoedd ledled y DU i gymryd rhan yn un o’r prosiectau ymchwil gwyddonol mwyaf o’i fath fel cydweithredwyr gweithredol, dan arweiniad yr Athro Anil Seth o’r Ganolfan Gwyddor Ymwybyddiaeth ym Mhrifysgol Sussex.
Mae Dreamachine yn gydweithrediad rhyngddisgyblaethol o dan arweiniad y Grŵp Act sy’n dwyn ynghyd Assemble, artistiaid sydd wedi ennill Gwobr Turner, y cyfansoddwr Jon Hopkins a enwebwyd am wobrau Grammy a Mercury, a thîm o wyddonwyr ac athronwyr arloesol o Brifysgol Glasgow a Phrifysgol Sussex.
Dywedodd Jennifer Crook, Cyfarwyddwr Dreamachine a Grŵp Act: “Bydd Dreamachine yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd o bob oed a diwylliant mewn math newydd pwerus o brofiad cyfunol – un sy’n unigryw i chi. Daw’r delweddau caleidosgopig cyfoethog sy’n cael eu creu gan y Dreamachine o’r tu mewn, gan roi cipolwg hudolus ar botensial eithriadol ein meddyliau ein hunain. Y tu hwnt i gyfyngiadau sgriniau neu ddyfeisiau, bydd ein rhaglen yn archwilio yn greadigol y cysylltiadau dynol mwyaf sylfaenol: sut yr ydym yn gweld ac yn creu’r byd o’n cwmpas. I archwilio un o’r dirgelion mwyaf sydd ar ôl i ddynol ryw… y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cau eich llygaid.”
GALWAD: A story from our future | Teledu, ar-lein ac ar leoliad ym Mlaenau Ffestiniog, Merthyr Tudful, ac Abertawe
Mae GALWAD yn stori sydd wedi’i gosod 30 mlynedd yn y dyfodol, ar sgriniau ac mewn lleoliadau ledled Cymru drwy ddrama deledu, ap trochi digidol a pherfformiad byw ym Mlaenau Ffestiniog, Merthyr Tudful ac Abertawe.
Mae byd y dyfodol agos yn 2052 yn cael ei gyd-gynllunio gyda’r dylunydd cynhyrchu Hollywood Alex McDowell (Minority Report) a chymunedau ledled Cymru ac mae wedi’i ysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) arloesol, sy’n rhoi materion fel tlodi, anghydraddoldebau iech yd a newid yn yr hinsawdd wrth wraidd penderfyniadau cyhoeddus.
Caiff GALWAD ei gomisiynu gan Cymru Greadigol. Fe’i cynhyrchir gan Grŵp Cymru dan arweiniad National Theatre Wales, partneriaeth o sefydliadau yng Nghymru gan gynnwys Celfyddydau Anabledd Cymru, Y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Clwstwr, Ffilm Cymru, Frân Wen ar y cyd ag Experimental Design Studio a Sugar Collective.
Dywedodd Claire Doherty, Cyfarwyddwr Creadigol GALWAD a Grŵp Cymru: “Mae’r broses o wneud GALWAD wedi dechrau ac rydym eisoes yn gweld eich bod yn newid y stori pan fyddwch yn newid y storïwyr. Mae GALWAD yn dwyn ynghyd dalent dewraf Cymru mewn ffilm a theledu, technoleg greadigol a pherfformiad byw ar gyfer math newydd o stori amlgyfrwng sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i archwilio cyfyng-gyngor moesol a phosibiliadau ar gyfer math gwahanol o ddyfodol.”
Green Space Dark Skies | Ar-lein o fis Ebrill
Gwahoddir 20,000 o bobl i helpu i greu Green Space Dark Skies, cyfres o ymyriadau sy’n dathlu tirwedd y DU gan ddefnyddio technoleg golau geo-leoli i gael eu profi gan gynulleidfaoedd ar-lein.
Bydd safleoedd ar draws Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cael eu goleuo gan gadwyni dramatig o olau a fydd yn ysgubo i lawr mynyddoedd a thrwy gymoedd. Mae’r prosiect yn cymryd ei ysbrydoliaeth o ymgyrch dresmasu torfol Kinder Scout 1932, gweithred a arweiniodd at sefydlu hawliau tramwy i gefn gwlad. Bydd cyfranogwyr, a elwir yn ‘Lwmenyddion’, yn cael eu recriwtio o gymunedau ledled y DU ac yn cynnwys goleuadau llaw sy’n gwneud lluniau symudol ar draws y dirwedd, i’w ffilmio a’u rhannu ar-lein. Mae’r dechnoleg oleuo wedi’i datblygu gan Siemens ac yn defnyddio goleuadau rhaglenadwy di-wifr presennol ac yn ymgorffori rhywbeth nad yw erioed wedi’i wneud o’r blaen: y gallu i’r goleuadau hyn gael eu hanimeiddio drwy geo-leoli, lle gellir adnabod safle pob golau mewn perthynas â’r lleill.
Cynhyrchir Green Space Dark Skies gan Grŵp Walk the Plank, dan arweiniad arloeswyr celfyddydau awyr agored y DU Walk the Plank gan weithio ar y cyd â’r cwmni technoleg Siemens, Prifysgol Salford, Parciau Cenedlaethol y DU a Landscapes for Life: The National Association of Areas of Outstanding Natural Beauty, sy’n gyfrifol am reoli safleoedd digwyddiadau’r prosiect; a gweithio gydag artistiaid amrywiol a chydweithwyr creadigol mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys cwmni syrcas integredig Extraordinary Bodies, y cydweithrediad rhwng Diverse City a Cirque Bijou, a chwmni cynhyrchu ffilmiau CC-Lab.
Dywedodd John Wassell, Cynhyrchydd Creadigol, Grŵp Walk the Plank: “Mae Green Space Dark Skies yn ymwneud â dosbarth a thirwedd, hil a thirwedd, anabledd a thirwedd. Rydym eisiau datblygu mwy o stiwardiaid cefn gwlad ar gyfer y dyfodol, ac ysbrydoli mwy o bobl i weld y cysylltiad rhwng eu defnydd a’u mwynhad o’r tir a’n gofal am y blaned.”
Our Place in Space | Derry–Londonderry, Belfast – Divis a’r Mynydd Du, Caergrawnt ac Amgueddfa Drafnidiaeth Ulster
Mae Our Place in Space yn fodel ar raddfa epig o gysawd yr haul a gynlluniwyd gan yr artist Oliver Jeffers, sy’n cyfuno llwybr cerfluniau 10km o hyd yng Ngogledd Iwerddon a Chaergrawnt, ap realiti estynedig rhyngweithiol, a rhaglenni dysgu a digwyddiadau.
O greu seren i gyfansoddi symffoni ar gyfer y bydysawd, dyfeisio math newydd o drafnidiaeth, adeiladu planed Minecraft neu gysylltu â gwylwyr gofod yn Fietnam neu Irac, mae Our Place in Space yn gwahodd cyfranogwyr i edrych ar gysawd yr haul mewn ffordd wahanol – gan archwilio beth mae’n ei olygu i fyw ar y Ddaear yn 2022, a sut y gallem ni rannu a diogelu ein planed yn well yn y dyfodol. Wedi’i ddylunio gan yr artist a’r awdur plant Oliver Jeffers gyda chefnogaeth gan yr astroffisegydd blaenllaw, yr Athro Stephen Smartt, ac yn cynnwys cerddoriaeth gan y cyfansoddwr, cynhyrchydd a’r artist sain arobryn Die Hexen, bydd y llwybr yn teithio o Derry–Londonderry i Divis a’r Mynydd Du, Belfast ac i Amgueddfa Trafnidiaeth Ulster a Llwybr Arfordir Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon yn ogystal â lleoliad glan yr afon yng Nghaergrawnt.
Cynhyrchir Our Place in Space gan Grŵp Nerve Centre, dan arweiniad sefydliad y celfyddydau Nerve Centre ac a gomisiynwyd gan UNBOXED gyda Chyngor Dinas Belfast. Mae’r cydweithio y tu ôl i’r prosiect yn cynnwys y Ganolfan Ymchwil Astroffiseg ym Mhrifysgol Queen’s, Belfast, Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon, Gŵyl Wyddoniaeth Gogledd Iwerddon, Big Motive, Taunt, Microsoft, Jeffers &Son, Dumbworld, Live Music Now, Little Inventors, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Urban Scale Interventions.
Dywedodd yr artist Oliver Jeffers: “ Ers canrifoedd, rydym wedi diffinio ein hunain yn ôl pwy ydym ni a phwy nad ydym ni. Pa ochr yr ydym ni’n ei ddewis, am bwy a beth yr ydym yn ymladd. Stori ddynol sy’n byw mewn meddyliau dynol yn unig. Ond gyda phellter daw persbectif… mae Our Place In Space yn arbrawf chwareus sy’n gofyn: Beth yw’r gwahaniaeth rhyngom ‘ni’ a ‘nhw’? Beth sy’n digwydd i’ch persbectif chi ar bopeth pan fyddwch chi’n edrych yn ôl ar y Ddaear o’r gofod?”
PoliNations | Caeredin a Birmingham
Mae PoliNations yn ardd goedwig dros dro yng nghanol Birmingham sy’n dathlu gwreiddiau byd-eang planhigion a phoblogaethau y DU drwy osodiadau trochi, cerddoriaeth fyw, sgyrsiau a pherfformiadau.
Gan ddechrau gydag un strwythur coed mawr yng Nghaeredin, bydd PoliNations yn ‘tyfu’ yn goedwig drochi yng nghanol Birmingham wedi’i llenwi â choed go iawn a phensaernïol yn ogystal â phlanhigion, glaswelltau a blodau a fydd yn cael eu tyfu mewn cydweithrediad â chymunedau lleol. O lygad y dydd i goed castanwydden a dahlias i rosod, mae llawer o’r planhigion yr ydym yn eu hystyried yn rhan o dirwedd y DU yn tarddu o dramor. Mae PoliNations – sydd hefyd yn rhan o Ŵyl Birmingham 2022 – yn ddathliad o amrywiaeth yn y DU, fydd yn archwilio amlddiwylliant drwy drosiad bioamrywiaeth anhygoel ein planhigion gan ddod i uchafbwynt sy’n cyfuno Carnifal Notting Hill, Pride a Mela gydag anarchiaeth lawen Songkran a Holi.
Cynhyrchir PoliNations gan Grŵp Trigger ac fe’i harweinir gan y sefydliad celfyddydol o Fryste, Trigger, gan ddefnyddio arbenigwyr ym meysydd garddwriaeth, gwyddoniaeth, pensaernïaeth a’r celfyddydau.
Dywedodd Angie Bual, Cyfarwyddwr Creadigol PoliNations a Chyd-gyfarwyddwr Grŵp Trigger: “Mae PoliNations yn dathlu’r lliw a’r bywiogrwydd y mae planhigion a blodau wedi’u cyflwyno i’r DU ac yn ein gwahodd i ail-ddychmygu ein dinasoedd fel mannau gwyrddach a gwylltach i fod ynddynt. Gan gyfuno peirianneg, garddwriaeth, theatr a cherddoriaeth o bob cwr o’r byd, mae PoliNations yn ardd goedwig ysblennydd wedi’i chyd-dyfu a fydd yn tanio’r synhwyrau ac yn dyfnhau’r ddealltwriaeth o’n hanes cyffredin, gan ddod â phobl at ei gilydd o bob cefndir digwyddiad olaf cwbl fythgofiadwy.”
SEE MONSTER | Weston-super-Mare
Mae SEE MONSTER yn blatfform alltraeth o Fôr y Gogledd sydd wedi’i ddadgomisiynu a’i drawsnewid yn osodiad celf gyhoeddus yn nhref arfordirol Weston-super-Mare sy’n dathlu tywydd Prydain.
Mae lleoliad SEE MONSTER yn hen lido y dref, y Tropicana, yn cyfeirio at oes aur cyrchfannau glan môr Prydain gan hefyd greu cyfleoedd a phosibiliadau newydd ar gyfer y safle a’r platfform. Bydd yn defnyddio pŵer yr elfennau i ddarparu ynni adnewyddadwy ar gyfer y strwythur ar ei newydd wedd. Gyda gerddi wedi’u plannu, lleoedd i gwrdd a rhaglenni dysgu, mae SEE MONSTER yn gwahodd cynulleidfaoedd i ystyried syniadau newydd ar gyfer rhoi bywyd newydd creadigol i strwythurau sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
Grŵp NEWSUBSTANCE sy’n gwireddu SEE MONSTER, dan arweiniad y stiwdio greadigol o Leeds NEWSUBSTANCE ac fe’i cefnogir gan Gyngor Gogledd Gwlad yr Haf.
Dywedodd Patrick O’Mahony, Cyfarwyddwr Artistig SEE MONSTER a Sylfaenydd NEWSUBSTANCE: “Mae dyfodiad SEE MONSTER yn Weston-super-Mare yn sbardun i archwilio’r cysyniad o strwythurau a etifeddir – yn ffisegol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol – ac i gwestiynu’r hyn a wnawn gyda nhw, sut y gallan nhw wella ein bywydau a pha gamau y maen nhw’n eu hysbrydoli, yn unigol ac yn gyffredinol.”
StoryTrails | Abertawe, Blackpool, Bradford, Bryste, Bwrdeistref Lewisham Llundain, Bwrdeistref Lambeth Llundain, Casnewydd, Dumfries, Dundee, Lincoln, Omagh, Sheffield, Slough, Swindon a Wolverhampton.
Bydd StoryTrails yn dwyn ynghyd realiti estynedig, datblygiadau newydd mewn technoleg rhyngrwyd 3D a’r genhedlaeth nesaf o leisiau creadigol i lunio un o’r prosiectau hanes byw ac archif mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed.
Mae StoryTrails yn brofiad trochi a fydd yn dod â straeon nad ydynt wedi’u hadrodd yn fyw o’r gorffennol a straeon am berthyn o heddiw, gan ysbrydoli sgwrs ledled y DU am bwy ydym ni a ble’r ydym yn mynd. Bydd llyfrgelloedd, strydoedd, sgwariau trefi a mannau cyhoeddus yn cael eu trawsnewid yn byrth rhithwir i archwilio straeon am newid hanesyddol mewn 15 lleoliad ledled y DU yn 2022. Bydd tîm creadigol StoryTrails yn gweithio’n agos gyda chymunedau ym mhob un o’r trefi a’r dinasoedd i ddatgelu straeon anhysbys, annisgwyl a diddorol. Bydd yn gorffen gyda ffilm newydd sbon i’r BBC a’r BFI gan David Olusoga: gan archwilio ein hanes, ystyried ein bywydau ni heddiw a dechrau sgyrsiau newydd am ble y gallem ni fynd nesaf.
Cynhyrchir StoryTrails gan StoryFutures Collective, dan arweiniad Academi StoryFutures sy’n cael ei gynnal gan Royal Holloway, Prifysgol Llundain a’r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS) a’i chyflwyno mewn partneriaeth â Sefydliad Ffilm Prydain (BFI), y darlledwr a’r gwneuthurwr ffilmiau David Olusoga, Uplands Television, ac arbenigwyr trochi blaenllaw ISO Design a Nexus Studios. Bydd yn dod yn fyw yn rhwydwaith cenedlaethol llyfrgelloedd Yr Asiantaeth Ddarllen a chan arbenigwyr gwneud digwyddiadau ProduceUK.
Meddai’r Athro James Bennett, Cyfarwyddwr Academi StoryFutures: “Bydd StoryTrails yn ail-danio balchder ac angerdd pobl am eu tref enedigol. Rydym yn rhoi addewid y rhyngrwyd 3D yn nwylo cenhedlaeth newydd o bobl greadigol a fydd yn adlewyrchu amrywiaeth lawn y DU ac yn datblygu prosiect hanes gwahanol i unrhyw un a fu o’r blaen: un sy’n gwneud cysylltiad hudol rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.”
Tour de Moon | Caerlŷr, Newcastle a Southampton, a lleoliadau eraill ledled Lloegr
Mae Tour de Moon yn gyfres o wyliau, digwyddiadau lloeren, profiadau bywyd nos a gorymdaith deithiol wedi’i hysbrydoli gan y Lleuad ac mewn cydweithrediad â’r Lleuad.
Nod Tour de Moon yw dechrau sgyrsiau am iwtopias yn y dyfodol a chefnogi creu gwaith newydd gan bobl greadigol, gwneuthurwyr, artistiaid digidol, cerddorion, gwyddonwyr, awduron, artistiaid bywyd nos a pherfformwyr rhwng 18 a 25 oed. Yn dilyn galwad agored, mae bwrsariaethau’n cael eu dyfarnu ar draws wyth maes rhaglen gan gynnwys chwaraeon, cyhoeddi, gwneud ffilmiau, cerddoriaeth, digidol a dadl. Mae’r rhai a recriwtiwyd yn llunio cynnwys Tour de Moon drwy gydweithrediadau annisgwyl. Nod Tour de Moon yw tanio dychymyg mewn ffyrdd chwareus, beirniadol a diddorol: mae synau poblogaidd yn cael eu huno â recordiadau o’r alaeth i greu math o gerddoriaeth estron newydd; trosglwyddir traciau cerddoriaeth i’r Lleuad ac oddi yno gan ddefnyddio technoleg gyfathrebu Daear-Lleuad-Daear (EME), a elwir hefyd yn ‘Moon bounce’; ac mae cyfleoedd i DJio gyda’r Lleuad neu ffonio’r Lleuad am gyngor.
Cynhyrchir Tour de Moon gan dîm amrywiol dan arweiniad Nelly Ben Hayoun Studios.
Dywedodd Dr Nelly Ben Hayoun-Stépanian, Cyfarwyddwr Tour de Moon: ” Mae Tour de Moon yn teithio gyda’r nos yn cydweithio â’n lloeren gyffredinol, y Lleuad, yn chwilio am ddechreuadau newydd i rymuso, creu, cychwyn ac arloesi gyda meddwl newydd fel nad yw camgymeriadau cymdeithas yn cael eu hailadrodd ar y Ddaear a thu hwnt. Yn antur nos cosmig Tour de Moon, mae’r Lleuad yn gymeriad ac yn dirwedd, yn gweddnewid ac yn amrywio’n barhaus. Mae’n barti o brofiadau trochi, technolegau newydd ac arloesedd gwyddoniaeth sy’n dathlu ac yn cefnogi creadigrwydd pobl ifanc a gweithwyr y nos.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle