GTACGC yn Annog Myfyrwyr i Ystyried Diogelwch Tân

0
303

Mid & W Wales Fire News

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi ymgyrch Wythnos Diogelwch Rhag Tân Myfyrwyr Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC).

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei chynnal rhwng 25-31 Hydref, yn meithrin ymwybyddiaeth myfyrwyr o beryglon tân wrth iddynt ddechrau ar eu taith i fywyd prifysgol.

Dywedodd Sion Slaymaker, Pennaeth Diogelwch Tân Busnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru,

“I lawer o oedolion ifanc, dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddant yn dechrau pennod newydd yn eu bywydau trwy symud i ffwrdd oddi wrth rwydweithiau cymorth, a gofalu amdanynt eu hunain mewn amgylchedd gwahanol. Gall yr amgylchedd newydd a chyffrous hwn olygu risgiau anghyfarwydd, ac mae ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Rhag Tân yn faes hollbwysig. O ganlyniad, mae’r Timau Diogelwch Tân Busnesau a Diogelwch Cymunedol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog myfyrwyr i fod yn ddiogel rhag tân yn eu llety ac i ystyried y risgiau a allai fod yn bresennol”.

Dywedodd Neil Evans, y Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol,

“Mae mwyafrif y tanau yr ydym yn cael ein galw iddynt yn dechrau yn y gegin, fel arfer oherwydd bod bwyd sy’n coginio wedi cael ei adael heb neb yn cadw golwg arno. Os oes yna un peth rwy’n annog myfyrwyr i’w ystyried, yna hwnnw yw peidio â choginio os ydynt wedi bod yn yfed. Os byddwch yn syrthio i gysgu, a’ch bwyd yn mynd ar dân, byddwch yn deffro gyda mwy na phen tost … os byddwch yn deffro o gwbl. Byddwn hefyd yn argymell yn gryf eich bod yn dangos rhywfaint o ofal tuag at eich larwm mwg ac yn ei brofi’n rheolaidd – gallai arbed eich bywyd”.

Mae’r Gwasanaeth wedi darparu rhagor o gamau syml y gellir eu cymryd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cadw’n ddiogel.

  • Gofalwch eich bod yn dod i adnabod eich llety y tu chwith allan. Datblygwch gynllun dianc. Sicrhewch fod gennych opsiynau ar gyfer dianc, a ddylai gynnwys cynllun B rhag ofn y bydd y llwybrau dianc confensiynol wedi eu rhwystro.
  • Sicrhewch fod larymau mwg yn bresennol ar bob lefel o’r eiddo a’u bod yn gweithio, ac nad oes dim yn eu gorchuddio. Os oes angen, sicrhewch fod synhwyrydd carbon monocsid yn bresennol. Profwch y synwyryddion yn rheolaidd.
  • Pan fydd socedi’n brin, osgowch orlwytho. Gall socedi ac addasyddion trydanol beri risg o dân os cânt eu gorlwytho. Sicrhewch fod eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio yn cael eu diffodd, yn enwedig eitemau megis sythwyr a sychwyr gwallt.
  • Ystyriwch ddiogelwch yn amgylchedd y gegin, sy’n cynnwys lleoliad eitemau trydanol, er enghraifft tostwyr, a ddylai gael eu gosod yn ddigon pell oddi wrth beryglon megis llenni a phapur. Sicrhewch fod eitemau trydanol tebyg i dostwyr yn cael eu cadw’n lân a’u gosod yn ddigon pell oddi wrth ddŵr.
  • Peidiwch byth â gadael rhywbeth yn coginio heb neb yn ei oruchwylio, a chymerwch ofal wrth ffrio gydag olew. Os bydd padell yn mynd ar dân, peidiwch byth â defnyddio dŵr i’w diffodd. Diffoddwch y gwres os yw’n ddiogel i chi wneud hynny. Os byddwch o dan ddylanwad alcohol, peidiwch byth â rhoi cynnig ar goginio.
  • Bydd gan bob prifysgol bwynt cyswllt ar gyfer diogelwch rhag tân. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i landlordiaid a sefydliadau addysgol sicrhau bod y llety’n ddiogel. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau ac â phwy y dylech siarad os byddwch yn gweld risg bosibl o dân. Ysgwyddwch gyfrifoldeb personol i roi gwybod am unrhyw broblem a welwch.
  • Os bydd tân yn dechrau, EWCH ALLAN, ARHOSWCH ALLAN A FFONIWCH 999.

Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch rhag tân myfyrwyr ar gael ar Wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cadwch lygad ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol, a hoffwch, dilynwch a rhannwch ein cynnwys i helpu i gefnogi’r ymgyrch hanfodol hon.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle