Elywel Iechyd Hywel Dda ar monitorau ocsigen a brynwyd ar gyfer Tîm Ymateb Acíwt Sir Gaerfyrddin

0
374
Saturation monitors for Carmarthenshire ACT2 - Derlys Jones and Mandy Daniels

Mae dau Fonitor Dirlawnder Ocsigen wedi cael eu prynu ar gyfer Tîm Ymateb Aciwt Sir Gaerfyrddin gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, diolch i rodd o £900 gan aelod o’r tîm, Mandy Daniels.

Gwnaeth Mandy, sy’n Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd, y rhodd er cof am ei gŵr, Steve, a fu farw o Ganser Pancreatig fis Tachwedd diwethaf yn 54 oed.

Roedd y Tîm Ymateb Aciwt yn gofalu am Steve gartref yn Nhymbl yn ei ddyddiau olaf a gwelodd Mandy yn uniongyrchol yr anawsterau o gymryd lefelau dirlawnder trwy’r fys.

Mae’r monitorau newydd yn caniatáu mesur lefelau dirlawnder trwy llabed y glust, a all fod yn fwy effeithiol mewn cleifion lliniarol.

Bydd y monitorau’n cael eu defnyddio gan y 65 aelod o’r Tîm Ymateb Aciwt, sydd wedi’u lleoli yng Nghaerfyrddin a Llanelli ac sy’n cynnal nyrsio aciwt, nyrsio ardal y tu allan i oriau a gofal lliniarol.

Dywedodd Mandy: “Oni bai am y Tîm Ymateb Aciwt, ni fyddai Steve wedi gallu treulio ei ddyddiau olaf gartref, a dyna oedd ei ddymuniad.

Roedd Steve eisiau rhoi rhodd i’r tîm ac rwy’n falch ein bod wedi gallu prynu monitorau i helpu cleifion lliniarol.”

Yn ogystal â rhoddion angladd gan deulu a ffrindiau, derbyniodd Mandy £500 gan yrwyr yn Chwarel Torcoed, lle’r oedd Steve yn arfer casglu agregau wrth weithio ym musnes ei fab Rhydian, J J Aggregates.

Dywedodd y Prif Nyrs, Derlys Jones: “Rydym yn ddiolchgar i Mandy am y rhodd, a fydd o fudd i gleifion lliniarol fel ei gwr, Steve.”

Yn y llun gwelir Derlys Jones a Mandy Daniels gydag un o’r monitorau dirlawnder Newydd. Hefyd yn y llun mae diweddar ŵr Mandy, Steve Daniels.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle