Prosiectau lleol yn elwa o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy

0
246

Wrth i arweinyddion byd eang baratoi i ddatgelu eu cynlluniau diweddaraf ar gyfer lleihau Allyriadau Carbon yng nghynhadledd COP26 ddiwedd y mis, mae Sir Benfro eisoes wedi cymryd camau breision gyda £38,572 o gyllid i brosiectau lleol ar gyfer gostwng carbon drwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae pedwar sefydliad wedi elwa o gylch nawdd diweddaraf y Gronfa, sydd ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n helpu ymateb i’r argyfwng hinsawdd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r cyffiniau. 

Un o’r ymgeiswyr llwyddiannus oedd Canolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield yn Arberth. Mae’r Ganolfan yn darparu gofal plant, addysg, iechyd a lles yn ogystal â chymwysterau hamdden saith diwrnod yr wythnos ac yn cael ei defnyddio gan 180 o grwpiau, cymdeithasau a busnesau yn rheolaidd. 

Roedd eu cynnig am brosiect yn cynnwys gosod generaduron micro er mwyn helpu gostwng costau ynni a lleihau ôl troed carbon y Ganolfan. Amcangyfrifir y byddant yn arbed 2.33 tunnell o garbon bob blwyddyn a gobeithir y bydd y prosiect yn hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol yn y gymuned, gan annog defnyddwyr i leihau eu defnydd o ynni yn ogystal â’u hôl troed carbon. 

Roedd system solar ffotofoltäig newydd gyda batri storio syml yn sylfaen i’r cais llwyddiannus gan Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian (CARE), sydd wedi’i leoli yng ngogledd y sir, ynghyd ag addysgu am ffyrdd o fyw sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd. 

Ar hyn o bryd maent yn y broses o adeiladu ‘Y Stiwdio’, adeilad ar gyfer gweithgareddau ymarferol, creadigol a chymunedol yn Hermon. Gobeithio y bydd yr adeilad ei hun yn tyfu i fod yn safle arddangos ar gyfer dulliau adeiladu sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd. 

Roedd Pwyllgor Elusennol Pentref Ludchurch hefyd yn llwyddiannus yn eu cais i osod batris yn Neuadd Gymunedol Longstone. Bydd hyn yn galluogi ynni solar sy’n cael ei greu yn ystod y dydd i gael ei storio at ei ddefnyddio gyda’r nos – gan ostwng biliau a lleihau’r ôl troed carbon. 

Y sefydliad olaf i elwa o gylch nawdd diweddaraf y Gronfa oedd Awel Aman Tawe, elusen ynni adnewyddadwy cymunedol. Gan weithio mewn partneriaeth ag Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro, nod y prosiect Ni yw’r Rapwyr Ynni (We are Energy Rappers) yw creu cyfleoedd allgyrsiol er mwyn ennyn diddordeb disgyblion mewn lleihau ynni a newid hinsawdd mewn chwe ysgol gynradd yn Sir Benfro. Cerddoriaeth a chreadigrwydd fydd prif ffocws y prosiect a bydd disgyblion yn cael eu hannog i weithio’n annibynnol ar fater maent yn angerddol amdano.

Gyda’r cylch nawdd nesaf ar agor nawr, anogir ceisiadau gan grwpiau nid-er-elw, gan gynnwys neuaddau pentref, cynghorau cymunedol a grwpiau amgylcheddol, sydd â phrosiect addas mewn golwg i leihau carbon.

Gall y rhain gynnwys:

·       Gosod cyfleusterau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, fel paneli solar, ar adeilad cymunedol

·       Mentrau trafnidiaeth sy’n hyrwyddo lleihau allyriadau carbon

·       Gosod cyfleusterau cymunedol sy’n lleihau gwastraff, fel ffynhonnau dŵr

·       Unrhyw fentrau cymunedol eraill sy’n lleihau carbon.

Dyddiad cau ceisiadau i’r Gronfa ydy hanner dydd, dydd Llun 6 Rhagfyr 2021. Gellir llwytho ffurflenni cais i lawr neu eu llenwi ar-lein ar https://www.arfordirpenfro.cymru/awdurdod-y-parc-cenedlaethol/cronfa-datblygu-cynaliadwy/ neu drwy gysylltu â Jessica Morgan ar jessicam@arfordirpenfro.org.uk

Derbynnir y nawdd ar gyfer y Gronfa gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Lleoedd Cynaliadwy Tirweddau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle