Parcmyn Haf yn paratoi ar gyfer hanner tymor prysur o hwyl yr hydref

0
267
Caption: Pembrokeshire Coast National Park Authority’s Summer Rangers will be offering a wide variety of free activities this half-term.

Mae Parcmyn Haf Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi bod yn olygfa gyfarwydd i lawer trwy gydol y misoedd cynhesach. Nawr, diolch i gyllid gan Llywodraeth Cymru gyda chymorth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cartrefi Persimmon a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, sydd wedi talu am adnoddau ychwanegol ar gyfer dysgu ac archwilio, mae’r Parcmyn Haf ar fin cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim dros hanner tymor.

Yn ystod y tymor prysur, mae Parcmyn Haf wedi bod wrth law i gynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor i drigolion ac ymwelwyr ar draethau a lleoliadau allweddol eraill o amgylch y Parc Cenedlaethol. Mae rhai o swyddogaethau pwysicaf y rolau dros dro hyn yn cynnwys helpu pobl i gael rhagor o wybodaeth am yr ardal trwy weithgareddau am ddim fel archwilio pyllau glan môr, darparu canllawiau pwysig ar bethau fel amseroedd y llanw a rhannu adnoddau am ddim.

Gyda llawer mwy o bobl yn ymweld â’r ardal eleni, maen nhw hefyd yn gallu cynnig arweiniad ar leoliadau amgen, yn ogystal â rhoi gwybodaeth leol arall i geisio lleihau’r problemau gorlenwi.

Dywedodd Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaethau Porthmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae cael pedwar Parcmon Haf eleni wedi ein galluogi ni i ofalu am lawer mwy o’r arfordir, gan helpu mwy o bobl i fwynhau a dysgu am y Parc Cenedlaethol, yn cynnwys pam ei bod yn bwysig troedio’n ysgafn a pheidio â gadael unrhyw olion ar eich hôl – negeseuon sy’n bwysicach fyth wrth i fwy a mwy o bobl ymweld â’r Parc.”

Fodd bynnag, bydd yr hanner tymor hwn yn canolbwyntio ar hwyl a manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w gynnig yn ystod y tymor tawelach. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim wedi’u trefnu ar gyfer hanner tymor mis Hydref, gan gynnwys archwilio pyllau glan môr, helfa Calan Gaeaf a llawer mwy o weithgareddau’r hydref.

Bydd Parcmyn Haf yn y lleoliadau canlynol yn ystod gwyliau’r ysgol:

Dydd Mercher 27 Hydref – Castell Caeriw

Dydd Iau 28 Hydref – Melin Heli Caeriw

I gael rhagor o wybodaeth am waith Parcmyn Haf, dilynwch y ddolen @PembsCoastRangers ar Facebook.

Mae rhaglen lawn o’r digwyddiadau hanner tymor sy’n cael eu trefnu gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle