Rhaglen Rhagori ar Bori’n rhoi’r hyder i ffermwr ddefnyddio technegau pori newydd

0
290
Capsiwn y llun: Carys Jones yn mesur glaswellt gyda mesurydd plât sy'n codi i lywio ei phenderfyniadau ynglŷn â'r cylchdro pori.

Mae ffermwr da byw ifanc yn gweld buddion edrych ar bori o safbwynt gwahanol, llai na blwyddyn ar ôl ehangu ar ei dealltwriaeth o ddulliau rheoli tir glas fel rhan o raglen benodol gan Cyswllt Ffermio.

Mae Carys Jones a’i theulu yn ffermio defaid a bîff ar fferm Carregcynffyrdd, ger Llandeilo. 

Mae’r busnes yn cadw diadell o 500 o famogiaid Mynydd Cymreig wedi’u gwella, ynghyd â diadell o ddefaid Charmoise a Thorddu, a buches o 45 o wartheg sugno Stabiliser croes. 

Yn hanesyddol, defnyddiwyd system stocio sefydlog i bori’r 142 hectar (ha) o dir fferm, ond ar ôl treulio blwyddyn yn gweithio ar systemau ffermio’n seiliedig ar laswellt yn Seland Newydd, roedd Carys yn hyderus bod gan y tir fwy o botensial. 

Ysgogodd hynny iddi wneud cais am le ar raglen rheoli tir glas Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio. 

Cwblhaodd ddwy lefel – Canolradd, a elwir hefyd yn raglen Meistr ar Borfa, a’r lefel Uwch. 

Roedd hynny’n ôl yn 2020 ac mae tystiolaeth o’r profiad hwnnw bellach i’w weld ar gaeau Carregcynffyrdd.

Maen nhw wedi defnyddio ffensys defaid tair gwifren i greu padogau, er mwyn eu galluogi i bori caeau mewn blociau llai.

Mae Carys yn mesur glaswellt gyda mesurydd plât sy’n codi i lywio ei phenderfyniadau ynglŷn â’r cylchdro pori. 

Mae’r cyfuniad o’r ddau yn dda i’r busnes ac i’r amgylchedd, meddai. 

“Mae’n rhy gynnar yn y broses o newid ein system i gael ffigurau cadarn ynglŷn â buddion costau ac arbedion ar wrtaith a phorthiant a brynir i mewn, ond rydym ni’n bendant yn tyfu mwy o laswellt o ansawdd gwell, ac nid yw’r glaswellt yn cael ei sathru gymaint ag y byddai gyda system stocio sefydlog. Yn hytrach, mae’n cael ei fwyta gan y defaid a’r gwartheg,” meddai Carys.

 Mae un o’r modiwlau, a oedd yn trafod cyd-bori gwartheg a defaid a’r buddion cysylltiedig o ran lleihau baich llyngyr, wedi ei hysbrydoli i newid i bori bloc o dir mynydd. 

Mae’r bloc 50 erw, a fu’n cael ei bori gan ddefaid yn y gorffennol oherwydd heriau gyda’r cyflenwad dŵr, yn cael ei rannu’n badogau 5 erw ac mae cafnau dŵr yn cael eu gosod. 

Mae’r teulu Jones bellach yn bwriadu pori gwartheg ar y tir, ac yna pori defaid yno, er mwyn torri cylchred heintiau llyngyr. 

“Rydym yn rhagweld y bydd angen defnyddio llai o driniaethau anthelminitig ar gyfer trin anifeiliaid i’w diogelu rhag parasitiaid,” meddai Carys. 

Trwy wella ansawdd y porthiant, bydd agweddau ar y system megis canrannau sganio hefyd yn gwella, a gallai hynny arwain at gadw mwy o stoc yn y pen draw. 

Trwy reoli gorchudd pori dros y gaeaf, mae Carys hefyd yn rhagweld y bydd mwy o laswellt ar ddechrau’r gwanwyn ac y bydd modd troi’r gwartheg allan yn gynt. 

Mae ymuno â’r rhaglen Rhagori ar Bori wedi rhoi’r hyder i Carys ddefnyddio gwahanol dechnegau pori. 

“Er fy mod wedi gweld y systemau hyn yn gweithio yn Seland Newydd, nid oedd gen i’r hyder i’w rhoi ar waith yma gan fy mod i ofn gwneud camgymeriad,” meddai.

Cafodd grŵp WhatsApp ei ffurfio rhwng aelodau’r rhaglen a’r arbenigwyr a oedd yn cyflwyno’r cynnwys, ac mae hyn wedi bod yn hynod o ddefnyddiol wrth i’r ffermwyr ymgyfarwyddo gyda throsi’r wybodaeth a ddysgwyd i weithio’n ymarferol ar y fferm. 

Gyda’r cyfnod ymgeisio newydd ar gyfer rhaglen Rhagori ar Bori’n dechrau ar 1 Tachwedd, mae Carys yn annog ffermwyr i archebu eu lle. 

“Mae cymaint i’w ennill o’r cynnwys a gan y bobl y byddwch chi’n eu cyfarfod, ac mae’r rhaglen am ddim!”

Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen Rhagori ar Bori, mae’n rhaid i bob unigolyn gwblhau ffurflen Mynegi Diddordeb sydd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio a chadarnhau bod gan eu busnes Gynllun Rheoli Maetholion dilys.

Cyllidwyd y rhaglen Rhagori ar Bori drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Bydd hyn yn cael ei asesu a gofynnir i ymgeiswyr bennu pa lefel fyddai’n fwyaf addas ar eu cyfer nhw a’r busnes er mwyn gwella dyfodol eu systemau da byw’n seiliedig ar y borfa.

Ar ôl cwblhau’r lefel Mynediad, gall ffermwyr symud ymlaen i’r lefel Ganolradd, ac yn ddiweddarach y lefel Uwch.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle