Gwnewch wisgo gorchudd wyneb yn rhan o’ch cit rygbi

0
275

Transport For Wales News

Mae cefnogwyr rygbi sy’n mynd i Gaerdydd i wylio gemau rhyngwladol Cymru yr hydref hwn yn cael eu hatgoffa bod yn rhaid iddyn nhw wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae disgwyl torf o 74,500 yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn y gyfres yn erbyn Seland Newydd – y tro cyntaf i’r holl docynnau gael eu gwerthu ers twrnamaint y Chwe Gwlad yn 2020.

Gyda disgwyl y bydd llawer mwy o filoedd o bobl yn dod i brifddinas Cymru i wylio’r ornest mewn bariau a lleoliadau eraill, mae Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn pwysleisio pwysigrwydd dilyn rheolau Covid Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru: “Bydd ein staff rheoli torf a diogelwch yn gweithio’n agos gyda BTP ar ddiwrnod y gêm i atgoffa cefnogwyr rygbi ei bod yn dal yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.

“Gall unrhyw un sy’n gwrthod gwisgo gorchudd wyneb heb reswm dilys gael ei atal rhag teithio neu gellir gofyn iddyn nhw adael y gwasanaeth.

“Rydyn ni eisiau i bob teithiwr gael taith ddiogel a hwylus yn ôl ac ymlaen i’r gêm.  Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â chlybiau rygbi i helpu i drosglwyddo’r neges y dylai gorchuddion wyneb fod yn rhan hanfodol o git pob cefnogwr rygbi yr hydref hwn.

“Dylai unrhyw un sy’n anghofio teithio gyda gorchudd wyneb siarad â staff TrC am gymorth.”

Dywedodd Arolygydd BTP Richard Powell: “Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid trwy gydol y twrnamaint i helpu’r miloedd sy’n defnyddio’r rheilffordd i deithio yn ôl ac ymlaen i’r digwyddiadau yn ddiogel.

“Bydd gennym fwy o bresenoldeb mewn lleoliadau allweddol, a bydd swyddogion yn atgoffa teithwyr o’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, oni bai eu bod wedi’i heithrio.

“Yn yr un modd â phob digwyddiad mawr, mae’n bwysig iawn i bawb sy’n defnyddio’r rheilffordd gadw’n effro, bod yn wyliadwrus, a riportio unrhyw weithgaredd amheus i staff yr orsaf, swyddog BTP, neu anfon neges destun at 61016 gyda rhywfaint o fanylion.”

Mae nifer o fesurau eraill ar waith i gadw teithwyr yn ddiogel gan gynnwys glanweithydd dwylo mewn gorsafoedd, gwell cyfundrefnau glanhau ar drenau a gorsafoedd a systemau ciwio i reoli llif pobl i mewn i orsafoedd ac ar drenau.

Bydd TrC yn rhedeg amserlen lawn gyda chapasiti ychwanegol ar ein trenau prysuraf a bydd yr holl gerbydau sydd ar gael mewn gwasanaeth, ond ni fydd cadw pellter cymdeithasol yn bosibl ar wasanaethau fydd yn cael eu cynnal ar ddiwrnod y gemau.  Mae TrC yn annog cwsmeriaid i ystyried hyn wrth ddewis p’un ai i deithio ai peidio.

Cynghorir unrhyw un sy’n teithio o orllewin neu ddwyrain Cymru i Gaerdydd ar hyd y brif reilffordd i ddefnyddio gwasanaethau rhyng-ddinas sydd â mwy o gapasiti mwy lle bo hynny’n bosibl ac anogir y rhai sy’n teithio pellteroedd byrrach i gerdded, beicio neu ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol.

Ychwanegodd Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybr Network Rail ar gyfer Cymru a’r Gororau: “Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru wrth i ni baratoi i groesawu miloedd o gefnogwyr a gwylwyr rygbi i Gaerdydd.

“Hoffem atgoffa pob teithiwr fod gwisgo gorchudd wyneb yn ofyniad cyfreithiol wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle