Mae’r Tîm Diogelwch cymunedol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y rheiny sydd â llosgyddion tanwydd, tanau a ffyrnau yn y gymuned i osod canfodyddion Carbon Monocsid (CO) sy’n gweithio, a hynny’n dilyn dihangfa lwcus gan un o drigolion Aberdaugleddau ar ôl Ymweliad Diogel ac Iach gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. |
Yn gynharach y mis hwn, aeth y Diffoddwyr Tân ar alwad, Neil Phillips a Huw Davies, sydd ar hyn o bryd yn helpu’r Tîm Diogelwch Cymunedol gydag Ymweliadau Diogel ac Iach, i eiddo preswylydd yn Aberdaugleddau yn dilyn atgyfeiriad gan Wasanaeth Larymau Cymunedol Sir Benfro. Mae gwasanaeth larymau cymunedol Sir Benfro yn wasanaeth brys dros y ffôn sydd â nodweddion arbennig sy’n addas ar gyfer pobl â nam ar y golwg, pobl trwm eu clyw, a phobl ag anawsterau o ran symudedd ac anableddau eraill. Yn ystod yr ymweliad, gosododd y diffoddwyr tân ganfodydd Carbon Monocsid a oedd wedi’i gysylltu â’r system larymau cymunedol, a hynny ar ôl sylwi bod yna dân nwy yn yr eiddo.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cafodd Gorsaf Dân Aberdaugleddau ei galw i’r eiddo wedi i’r canfodydd CO ddechrau seinio a mynd ati’n awtomatig i ddeialu’r system larymau. Sefydlodd y criw fod yna broblem gyda’r tân nwy yn yr eiddo, ac aeth ati i ddiogelu’r preswylydd trwy weithio gyda’i gwmni cyfleustodau i ynysu’r lle tân. Dywedodd Will Stephenson, Rheolwr Criw ar gyfer Diogelwch Cymunedol yn Sir Benfro,
Mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan nad yw rhai tanwyddau yn cael eu llosgi’n iawn. Mae hyn yn cynnwys nwy, olew a thanwyddau solet megis glo, golosg a phren. Gall carbon monocsid hefyd ollwng i’r eiddo trwy ffliwiau neu simneiau a rennir, a gall hyd yn oed dreiddio trwy waliau brics a phlastr. Ychwanegodd Karen Jones, y Pennaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru,
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi darparu rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud i atal gwenwyn Carbon Monocsid ar ei wefan: https://www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/yn-y-cartref/diogelwch-carbon-monocsid/ Gall gwiriad ‘Diogel ac Iach’ gael ei gynnal gan y Gwasanaeth Tân ac Achub trwy ffonio 0800 169 1234 neu drwy ei ffurflen atgyfeirio ar ei wefan: https://www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/yn-y-cartref/ymweliadau-diogel-ac-iach/ |
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle