Welsh dairy firm is cashing in on new afternoon tea trend in Japan

0
488
HyperFocal: 0

Mae Daffodil Foods wedi sicrhau bargen allforio gyda mewnforiwr o Japan i ddechrau danfon eu hufen tolch Cymreig mewn ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn te prynhawn Prydeinig. 

Mae hyn yn golygu yn y Flwyddyn Newydd, y bydd defnyddwyr o Japan yn gallu prynu’r hufen tolch Cymreig mewn archfarchnadoedd ledled y wlad. 

Gyda’r cynnydd mewn diddordeb mewn te prynhawn, mae’r farchnad yn agor ar gyfer mwy o frandiau cynnyrch llaeth Cymreig, fel yr eglura Lynne Rowlands, Cyfarwyddwr Daffodil Foods, “Mae gan ddefnyddwyr Japaneaidd ddiddordeb arbennig yn ein te prynhawn Prydeinig ac rydym ni wedi gallu sicrhau bargen broffidiol a datgloi’r farchnad hon. 

“Dechreuom ni ein taith allforio yn gyntaf ar ôl ymweld â digwyddiad BlasCymru/TasteWales yn 2019 a chludo rhai o’n cynhyrchion i Hong Kong. Bydd y cytundeb allforio hwn â Japan yn farchnad strategol inni yn y dyfodol.

“Rydym ni wrth ein bodd a byddwn ni’n dechrau allforio i Japan yn y flwyddyn newydd gan fod ganddyn nhw eisoes nifer o archfarchnadoedd allweddol sydd â diddordeb yn ein cynnyrch.”

Mae Daffodil Foods yn fusnes sy’n tyfu ac wedi’i leoli yng nghesail Eryri ger Abersoch a Phwllheli yng ngogledd Cymru. Mae ei gynhyrchion llaeth wedi’u brandio yn cynnwys hufen tolch Cymreig, hufenau wedi’u meithrin, iogwrt a phwdinau moethus ac maen nhw i’w cael ledled Cymru a’r DU mewn lleoliadau gwasanaeth bwyd, arlwyo a lletygarwch. 

Daw’r newyddion wrth i BlasCymru/TasteWales 2021 cael ei gynnal yr wythnos hon, y trydydd tro i ddigwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru gael i gynnal, ac sy’n llwyfan pwysig i fusnesau Cymru i arddangos eu cynnyrch i brynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. 

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae busnesau bwyd a diod o Gymru yn gweithio’n galed i weld eu cynhyrchion yn cael eu mwynhau gartref a thramor. 

“Mae cydweithio i ehangu ein portffolio mewn marchnadoedd allforio yn hanfodol yn yr hinsawdd sydd ohoni ac mae gan Gymru enw da am ansawdd, tarddiad a diogelwch bwyd. 

“Llongyfarchiadau enfawr i Daffodil Foods ar sicrhau’r fargen hon sy’n tynnu sylw’n berffaith at y cyfleoedd sydd ar gael i’n cynhyrchwyr bwyd a diod. Rwy’n siŵr y bydd eu hufen tolch Cymreig yn creu argraff ar bobl yn Japan. “

I gael mwy o wybodaeth a chyngor gan Lywodraeth Cymru ar allforio cynhyrchion, ewch i:

https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/growing-your-business/exporting

I gael rhagor o wybodaeth am Daffodil Foods, ewch i: https://www.daffodilfoods.co.uk/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle