Darpariaeth Brofi Covid newydd i Bontardawe

0
217

Bydd uned brofi symudol yn gweithredu ym Mhontardawe cyn bo hir bob dydd Mercher a, Gwener rhwng 9am a 5pm. Bydd yr uned yn cynnig dewis profi y gellir ei archebu ar gyfer pobl sydd naill ai ag arwyddionclasurolcoronafeirws neu symptomau eraill y byddan nhw’n teimlo o bosib eu bod nhw’n anghyffredin iddyn nhw neu eu plentyn.

Gall rhain gynnwys symptomau tebyg i’r ffliw, gan gynnwys unrhyw rai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • myalgia (cyhyrau’n gwynegu neu’n boenus);
  • blinder eithafol;
  • pen tost parhaus;
  • trwyn yn rhedeg neu’n llawn (oni bai bod hynny’n symptom clefyd y gwair cyfarwydd i’r unigolyn);
  • tisian yn barhaus;
  • llwnc tost a/neu lais crug, diffyg anadl neu frest yn gwichian wrth anadlu;

Bydd y profion ar agor hefyd i unrhyw un sy’n teimlo’n gyffredinol anhwylus ac a fu mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19, neu unrhyw un sydd â symptomau newydd neu wahanol ar ôl cael prawf negyddol yn flaenorol.

Er bod Cymru’n parhau arLefel Seroar Gynllun Rheoli Coronafeirws Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan o hyd i atal lledaeniad y feirws. Bydd cael prawf yn helpu i gefnogi ein busnesau lleol i gadw’n ddiogel ac yn masnachu.

Lleolir yr Uned Brofi Symudol ym Maes Parcio’r A474,Ffordd Osgoi Pontardawe, SA8 4EQ. Bydd ar agor dydd Mercher a Gwener o 09:00 – 17:00. Bydd hyn yn dechrau ar 5ed o Hydref a bydd y cyfleuster ar agor hyd oni hysbysir yn wahanol.

Bydd angen archebu profion ymlaen llaw. Archebwch ar lein ar www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119.

Gallwch hefyd ffonio rhif lleol Bwrdd Iechyd Bae Abertawe: 01639 862757 a siarad â gweinyddwr a fydd yn archebu eich prawf i chi.

Ar ôl cael y prawf, bydd pobl yn cael cyfarwyddyd ynghylch sut mae cofrestru eu canlyniadau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle