Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ennill gwobr ryngwladol

0
322
NBGW Regency Project 2021 May (c) Tim Jones Photography

Prosiect adfywiad cyfnod yn Rhaglywiaeth gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw Dewis y Bobl gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) eleni. Mae Gwobr Dewis y Bobl yn cydnabod  prosiectau peirianneg sifil ar draws y byd sydd wedi gwneud argraff gadarnhaol ar eu cymunedau lleol.

Prosiect Adfywiad cyfnod y Rhaglywiaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a gymerodd bum mlynedd i’w gwblhau gan gostio dros £7 miliwn, yw’r mwyaf i’w gwblhau yng Nghymru ac mae’n cynnwys dau lyn newydd, pontydd, argaeau, gorlifannau, rhaeadr a rhwydwaith helaeth o lwybrau, i gyd mewn 300 erw o barcdir coediog.

NBGW (c) Tim Jones Photography Regency

Meddai Ed McCann, 157ed Llywydd ICE: “Dyna lwyddiant mawr i bawb a fu’n ymwneud â’r prosiect hwn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sy’n dangos peirianneg sifil mewn goleuni gwahanol – creu ac adfywio mannau angenrheidiol i’r cymunedau lleol eu mwynhau a hyrwyddo byw’n weithgar.

Ac meddai McCann eto: Mae’r prosiectau ar y rhestr fer eleni i gyd yn dangos bod cynaliadwyedd ac arloesi ar y blaen yn y byd peirianneg sifil.”

Roedd llwyddiant prosiect Adfywio cyfnod y Rhaglywiaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn golygu nifer enfawr o gymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin. O’r Cyngor, ysgolion a sefydliadau lleol i unigolion. Roedd hefyd yn hyrwyddo caffael yn lleol o’r cyfnodau cynllunio cynnar, ymwneud ag ecolegwyr ymgynghorol, dylunwyr a pheirianwyr yn ystod yr adeiladu.

NBGW Regency Project 2021 May (c) Tim Jones Photography

Meddai Huw Francis, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: “Mae’n anrhydedd i ni fod prosiect adfywio Cyfnod y Rhaglywiaeth wedi ennill Gwobr Dewis y Bobl gan ICE. Mae’n cydnabod cyfuniad o ymdrechu caled ac yn tynnu sylw at y ffaith fod ffyrdd iachus o fyw yn dod yn fwy poblogaidd mewn cymunedau. Mae darparu mannau gwyrdd wedi’u cynllunio’n dda – fel ein Gardd ni – yn hanfodol i lesiant pobl a’u hiechyd meddwl.”

Roedd tîm y prosiect llwyddiannus yn cynnwys y contactiwr WM Longreach, rheolwyr dylunio a phrosiect allweddol gan Mann Williams, Partneriaeth Nicholas Pearson LLP, Penseiri a’r Partneriaid a HR Wallingford – Peiriannydd Cronfeydd.

Meddai cyfarwyddwr y prif gwmni WM Longreach, Damian McGettrick: “Rydyn ni’n eithriadol o falch o fod yn rhan o’r tîm brwd ac ymroddedig ym mhrosiect adfywio Cyfnod y Rhaglywiaeth, ac wrth ein bod fod ein holl ymdrechion wedi eu cydnabod yn rhyngwladol gan y cyhoedd fel hyn.”

Eleni roedd chwe phrosiect ar y rhestr fer i ennill y brif wobr yn ystod pleidlais gyhoeddus ar draws y byd. Enillwyd y Wobr ddiwethaf yn 2019 gan brosiect rhan Hong Kong o’r Bont Kong-Zhuhai-Macao (HZMB).

Hoffai Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddiolch yn fawr i’n holl gyllidwyr sydd wedi cefnogi’r prosiect hwn, mae’r rhain yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – a phawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Richard Broyd, Sefydliad Waterloo, Sefydliad Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth y Pererinion, Sefydliad Tai Gwledig, Ymddiriedolaeth Patsy Wood, Ymddiriedolaeth Garfield Weston a Sefydliad Garfield Weston.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle