Y Brifysgol Agored yn hyrwyddo COP26 gyda digwyddiad ‘Parth Gwyrdd’ yn codi cwr y llen ar ddiwylliant, dinasyddion a’r hinsawdd

0
234
Lynnette Thomas

Mae’r Brifysgol Agored yn cynnal digwyddiad unigryw yn ystod y 26ain Cynhadledd Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) fel un o sawl menter i nodi ei hymrwymiad i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Bydd COP26 yn uno pleidiau o ledled y byd i gyflymu’r camau gweithredu tuag at gyrraedd nodau Cytundeb Paris a Chonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd. 

Bydd y Brifysgol Agored yn cynnal cyfres 90 munud o fyfyrdodau byr ar ‘Wybodaeth Hynafol a Meddwl Modern: Safbwyntiau Hinsawdd mewn Celf Werin’ wedi’i chynnal mewn partneriaeth â Glasgow Life. Yn cael eu cynnal ar 7 Tachwedd, bydd y myfyrdodau hyn yn cynnwys artistiaid brodorol ac arbenigwyr o’r Brifysgol Agored a Glasgow Life, yn codi cwr y llen ar y cysylltiadau rhwng diwylliant, dinasyddion a’r hinsawdd drwy archwilio tri darn cyferbyniol o gasgliad Diwylliannau’r Byd Amgueddfeydd Glasgow. 

Mae gan y Brifysgol Agored statws arsylwr swyddogol yn COP26, a bydd yn dysgu o’r gynhadledd er mwyn llywio cenhadaeth cynaliadwyedd ehangach y brifysgol, ac ysbrydoli myfyrwyr a staff i weithredu. 

Mae’r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i fod yn ‘sero net’ erbyn 2050, a bydd yn cyflawni sero net ar gyfer yr hyn a elwir yn allyriadau sgôp 1 a 2 erbyn 2030, ac yn buddsoddi miliynau o bunnoedd er mwyn cyflawni hyn. Mae’r Brifysgol hefyd wedi ymrwymo i ddadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Mae’r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau a bydd yn cael ei gwblhau erbyn 2023. 

Lynnette Thomas

Dywedodd Lynnette Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, a Chadeirydd Rhwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru:

“Mae prifysgolion Cymru a’r byd, yn ddigon ffodus i allu hyrwyddo arferion cyfrifol, meithrin gwell dealltwriaeth gyhoeddus, a lleihau ein heffaith amgylcheddol. Ar y cyd, mae prifysgolion yn cyflogi degau o filoedd o bobl, ac mae ganddynt bresenoldeb amlwg yn ein cymunedau ym mhob cwr a chornel o’r wlad, felly mae gennym gyfrifoldeb i ystyried sut ydym yn defnyddio ynni ac adnoddau’n ofalus, a sut allwn ni leihau ein heffaith ar y byd o’n cwmpas. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i rannu ein hymchwil a gwybodaeth fel y gall cymunedau yng Nghymru a chenedlaethau’r dyfodol fynd i’r afael â heriau amgylcheddol sylweddol y ganrif hon.

“Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, ein cenhadaeth yw bod “yn agored i bobl, llefydd, dulliau a syniadau”. Rydym wedi ymrwymo i ysbrydoli gweithredu drwy ein rôl fel addysgwr a sicrhau bod popeth rydym yn ei wneud yn gynaliadwy.  Mae fframwaith cenhadaeth ddinesig Prifysgolion Cymru yn nodi sut all prifysgolion gefnogi ein cymunedau, yn ogystal â mynd i’r afael â phroblemau rhanbarthol a byd-eang. Mae ein gweithgaredd arsylwi yn COP26 yn rhoi cyfle i ni wella ein gwaith ar gynaliadwyedd yn y dyfodol a gwneud cyfraniad ystyrlon i leihau effaith newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.”

Cerith Rhys Jones

Mae Cerith Rhys Jones, sydd bellach yn gweithio fel Rheolwr Materion Allanol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, ond a fu gynt yn gweithio fel Hyrwyddwr Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru ac yn aelod o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru i COP15 – y 15fed Cynhadledd y Pleidiau, yn Copenhagen yn 2009 – yn dadlau bod gan brifysgolion yng Nghymru sawl cyfle arall i gyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy a llesiant.

Mewn darn ar wefan y Brifysgol Agored yng Nghymru, eglurodd bod arloesedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnig fframwaith i brifysgolion ddylunio ein gweithgareddau a gwneud y mwyaf o’n cyfraniad at ddyfodol gwell, drwy’r ffordd rydym yn rhedeg ein busnesau, yn yr hyn rydym yn ei roi’n ôl i’n cymunedau, ac yn yr hyn rydym yn addysgu i’n dysgwyr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle