‘Nadolig Gwyrdd i Bawb’ – Prif Weinidog Cymru yn lansio cystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig

0
328

Welsh Government

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn gofyn i artistiaid ifanc brwdfrydig gymryd rhan yn ei gystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig eleni.

Bydd y cynllun buddugol yn cael ei ddewis gan y Prif Weinidog, ac yn cael ei ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol.

Mae’r Prif Weinidog yn anfon ei gerdyn Nadolig at filoedd o bobl ledled y byd, gan gynnwys y Frenhines ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, a’r Dirprwy Arlywydd, Kamala Harris.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant ym mlynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol gynradd.

Ar ôl ymweliad y Prif Weinidog â Glasgow ar gyfer Uwchgynhadledd COP26, thema’r gystadleuaeth eleni yw ‘Nadolig Gwyrdd’.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Roedd yn wych gweld cannoedd o gardiau’n cystadlu’r llynedd. Dw i’n edrych ymlaen at weld fy nesg wedi ei gorchuddio eto eleni gyda chynlluniau lliwgar ar gyfer yr ŵyl.

“Dw i’n gobeithio y bydd y thema ‘Nadolig gwyrdd’ yn gwneud i blant feddwl am sut y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan yn yr ymgyrch i leihau llygredd, er mwyn diogelu byd natur a’r hinsawdd.

“Efallai fod angen rhywbeth i godi ein calonnau wedi blwyddyn anodd. Dw i wir yn edrych ymlaen at weld canlyniadau dychymyg y plant yn cyrraedd yn y blwch post.”

Y dyddiad cau yw 12 Tachwedd.

E-bostiwch eich ceisiadau i cabinetcommunications@llyw.cymru

Canllawiau ar gyfer cymryd rhan

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 12 Tachwedd
Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant oed ysgol ym mlynyddoedd pump a chwech
Dylai pob cerdyn fod yn faint A4 ar y mwyaf (210mm x 297mm)
Nid oes ots a yw’r cerdyn ar i fyny neu ar draws
Dylai pob cerdyn fod yn ‘fflat’ – dim arwyneb anwastad, dim gwlân cotwm, glitr ac ati
Lliwiau llachar sy’n cael eu hatgynhyrchu orau
Dylech osgoi cefndir tywyll
Os ydych am gynnwys testun, yna gofynnwch i’ch athro eich helpu i gyfieithu neu defnyddiwch Google Translate. Dyma rai ymadroddion safonol: Nadolig Llawen – Merry Christmas / Cyfarchion y Tymor – Season’s Greetings. Rhowch y Gymraeg yn gyntaf ac yna’r Saesneg.
Cofiwch gynnwys enw a manylion cyswllt y plentyn gyda’r cerdyn
Yn anffodus, ni allwn ddychwelyd unrhyw gardiau
Gellir anfon cardiau sydd wedi’u gwneud ar gyfrifiadur drwy e-bost. Gellir anfon cardiau nad ydynt wedi’u creu ar gyfrifiadur drwy e-bost hefyd – tynnwch lun clir o’ch cynllun, ond cofiwch gadw’r gwaith gwreiddiol fel y gallwch ei anfon atom os byddwch yn llwyddiannus.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle