Mae cwmni o arbenigwyr band eang, gyda chanolfan yng Nghaerfyrddin, yn cynnal cyfres o gyfarfodydd yn ne-orllewin Cymru gyda golwg ar ymestyn band eang cyflym iawn (superfast broadband) a band eang gwibgyswllt (ultrafast broadband) i fwy o ardaloedd anodd eu cyrraedd.
Mae cwmni Voneus, sydd eisoes yn gwasanaethu cymunedau ar draws pedair sir yng Nghymru, yn rhedeg cyfres o gyfarfodydd yn Sir Gâr a Cheredigion mewn ardaloedd lle nad ydynt yn gweithredu ar hyn o bryd, ond lle bu galw mawr am gyswllt band eang cyflym.
Yn y cyfarfodydd bydd y cwmni’n egluro sut y maent yn gosod rhwydweithiau band eang a all lawrlwytho (download) ac uwchlwytho (upload) data ar gyflymder o rhwng 50Mbps a 1Gbps. Byddant hefyd yn cyflwyno eu tîm o arbenigwyr lleol i drigolion yr ardal a rhoi siawns i bobl weld y llwybryddion (routers), cynhyrchion mesh ac offer a osodir ar eu heiddo.
Yn arwain y sgyrsiau bydd aelodau dwyieithog o dîm cyswllt â’r gymuned Voneus fel y gall siaradwyr Cymraeg a Saesneg dderbyn cyngor a gwybodaeth yn eu dewis iaith.
Meddai Naomi Marshall, pennaeth tîm cyswllt â’r gymuned Voneus: “Mae’r pandemig yn golygu fod llawer o wasanaethau sylfaenol fel apwyntiadau doctor a siopa groser yn awr yn digwydd ar lein. Mae diffyg cyflymder band eang o ganlyniad yn dipyn o boendod i’r trigolion hynny yng Ngheredigion a Sir Gâr nad ydynt wedi gallu manteisio hyd yma o ledaeniad band eang cyflym.
“Bydd y cyfarfodydd a drefnwn yn rhoi siawns i bobl leol gwrdd â’n tîm o arbenigwyr, dysgu am ein gwaith a gofyn cwestiynau am y broses o ddod â band eang cyflym iawn a band eang gwibgyswllt i’w tai a busnesau.
“Ni fydd disgwyl i bobl arwyddo unrhyw gytundeb ac ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth iddynt. Yn hytrach, rydym am i bobl ddod i’n hadnabod yn well a gweld beth yn union beth y gallwn ei gynnig. Gofynnwn i bawb sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am fand eang i ddod draw atom am sgwrs anffurfiol.
“Ein prif flaenoriaeth yw darparu gwell cysylltiadau, a thrwy hynny well dyfodol i ardaloedd anodd eu cyrraedd. Mae’r sgyrsiau hyn yn rhan bwysig o’r broses o roi gwybod i bawb yn y gymuned ein bod o ddifrif ynghylch darparu’r gwasanaeth hanfodol hwn.”
Bydd pob cyfarfod yn para tua awr a hanner ac yn cynnwys cyflwyniad a siawns i ofyn cwestiynau. Fe’u cynhelir yn:
Neuadd y Farchnad Crymych ar 15 Tachwedd o 2pm tan 3.30pm, 4pm tan 5.30pm, a 6pm tan 7.30pm.
Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn ar 17 Tachwedd o 2pm tan 3.30pm, 4pm tan 5.30pm, a 6pm tan 7.30pm.
Canolfan Hywel Dda, Hen Dŷ Gwyn ar Daf ar 18 Tachwedd o 1.30pm tan 3pm, 3.30pm tan 5pm, a 5.30pm tan 7pm.
Clwb Criced Llandysul ar 19 Tachwedd o 2pm tan 3.30pm, 4pm tan 5.30pm, a 6pm tan 7.30pm.
I ganfod mwy gellir cysylltu â Voneus drwy ffonio 0333 880 4141, e-bostio broadband@voneus.com, neu fynd i’r wefan https://www.voneus.com.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle