Rhaglen cymorth sgiliau’n rhagori ar ei tharged hyfforddi

0
209

Mae rhaglen hyfforddi a ddyluniwyd i ddatblygu’r diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, ar ôl cefnogi dros 5,500 o ddiwrnodau hyfforddi ers mis Ebrill 2019.

Lantra sy’n darparu rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru ac mae’n cefnogi busnesau o bob maint yn sector bwyd a diod Cymru, gan sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach yn ei gyfanrwydd.

Gan weithio ar draws pob sector yn y diwydiant, mae’n helpu gweithwyr i addasu i heriau economaidd ac amgylcheddol y dyfodol a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer datblygu a thyfu busnesau.

Wrth sôn am y garreg filltir fawr hon, dywedodd Sarah Lewis, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd Cymru,

“Rwy’n falch iawn o ddatblygiad y rhaglen ers i ni ddechrau ym mis Ebrill 2019. Ar ôl gosod targed o 1000 o ddyddiau hyfforddi i ni ein hunain rydym ni wedi rhagori ar hynny ac bellach wedi cefnogi busnesau bwyd a diod Cymru gyda dros 5,500 o ddyddiau hyfforddi.

“Dangosodd ein hymchwil flaenorol fod cryn dipyn o fylchau sgiliau a phrinder technegol nid yn unig o fewn technoleg bwyd a deddfwriaeth diogelwch bwyd, ond hefyd mewn meysydd eraill fel arweinyddiaeth a rheolaeth, ymwybyddiaeth gwastraff a gwerthu a marchnata. Fodd bynnag, gyda’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y busnesau hyn gallwn helpu i sicrhau bod gan eu gweithwyr y sgiliau cywir i ffynnu mewn diwydiant sy’n newid yn barhaus.”

Un busnes sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Sgiliau Bwyd Cymru yw In The Welsh Wind Distillery, distyllfa grefft fach ond uchelgeisiol ar arfordir gorllewin Cymru a agorodd ei drysau ym mis Ionawr 2018. O ganlyniad i’r gefnogaeth ariannol, maen nhw wedi cwblhau amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi, gan gynnwys cwrs distyllu diwydiant, hyfforddiant AD pwrpasol, cymorth cyntaf, diogelwch tân a hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid.

Dywed Alex Jungmayr, cyd-berchennog a chyfarwyddwr In The Welsh Wind Distillery,

“Mae gweithio gyda’r tîm yn Sgiliau Bwyd Cymru i sicrhau bod y gefnogaeth ariannol ar gael ar gyfer hyfforddi ein staff wedi bod yn drawsnewidiol i’r busnes. Mae wedi caniatáu inni gael mynediad at hyfforddiant hanfodol na fyddem ni’n debygol o fod wedi gallu ei fforddio er mwyn tyfu ein busnes ac uwchsgilio ein tîm. Gyda mwy o dwf o’n blaenau, rydym ni wedi gallu gosod sylfaen gadarn i adeiladu arni.”

Mae’r cwmni prosesu cig coch, Randall Parker Foods yn fusnes arall i elwa o’r gefnogaeth hyfforddi, ar ôl derbyn cymeradwyaeth i’w gweithwyr ymgymryd ag amrywiol agweddau ar hyfforddiant i wella eu sgiliau.

Esbonia Dale Williams, rheolwr cyffredinol Randall Parker Foods yn Llanidloes,

“Fel cwmni, rydym ni’n ymdrechu i wella sgiliau a gwybodaeth ein gweithlu yn barhaus o lefel y bwrdd i lawr y siop. Rydym ni wedi ennill llawer o sgiliau newydd ac wedi ehangu datblygiad hyfforddiant ein gweithwyr ym mhob maes ac agwedd ar y busnes. Mae’r gefnogaeth a gawsom ni gan Sgiliau Bwyd Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i’n rhaglen datblygu hyfforddiant.”

Mae gan fusnesau bwyd a diod gyfle o hyd i wneud cais am gymorth cyllid i helpu gyda’u hanghenion hyfforddi ond mae angen iddyn nhw weithredu’n fuan, fel yr eglura Sarah Lewis,

“Y dyddiad olaf i fusnesau gyflwyno cais am gyllid ar gyfer hyfforddiant yw 17 Rhagfyr, ac mae angen cwblhau’r holl hyfforddiant erbyn 18 Chwefror 2022.

“Mae ein cefnogaeth hyfforddi yn cwmpasu ystod o feysydd hanfodol sydd eu hangen ar draws y diwydiant heddiw. Byddwn yn ystyried cyllido unrhyw anghenion hyfforddi a allai fod gan fusnes unigol. Felly, hoffem ni annog pob busnes prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod i gysylltu â’r tîm heddiw i drafod anghenion hyfforddi eich staff.”

Yn gyntaf, bydd busnesau cymwys sy’n dymuno cael gafael ar y cyllid sydd ar gael i helpu gyda chost cwblhau cyrsiau hyfforddi, yn gweithio gyda thîm Lantra i gwblhau Offeryn Diagnostig Sgiliau sy’n helpu busnesau i nodi a blaenoriaethu anghenion hyfforddi. Yna bydd Lantra yn dewis y darparwr hyfforddiant mwyaf priodol o’u rhestr gymeradwy ar eu fframwaith i ddarparu’r hyfforddiant perthnasol ar amser ac mewn lleoliad sy’n gweddu orau i anghenion y busnes.

Mae swm y cyllid sydd ar gael yn amrywio o 50% i 80%, yn dibynnu ar faint y busnes. I fod yn gymwys i gael cymorth, rhaid bod gan y busnes safle cynhyrchu neu weithgynhyrchu yng Nghymru ac yn gallu dangos enillion clir ar fuddsoddiad yn dilyn yr hyfforddiant.

Y dyddiad olaf i wneud cais am gyllid ar gyfer cymorth hyfforddi trwy raglen Sgiliau Bwyd Cymru yw 17 Rhagfyr ac mae angen cwblhau’r holl hyfforddiant erbyn 18 Chwefror 2022. Mae gwybodaeth bellach ar gael trwy gysylltu â Sgiliau Bwyd Cymru ar wales@lantra.co.uk neu ffonio 01982 552646.

Ariennir Sgiliau Bwyd Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle