Dŵr Cymru’n dathlu COP 26 trwy addysgu disgyblion am bŵer pŵ

0
349
education session
Dwr Cymru Welsh Water News
  • Bu Dŵr Cymru a Chadw Cymru’n Daclus yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno sesiynau addysg rhithiol i ysgolion cynradd ledled Cymru
  • Ymunodd dros 6,000 o ddisgyblion ar draws Cymru wrth i Ddŵr Cymru gynnal sesiynau rhithiol i ddysgu am y newid yn yr hinsawdd, dŵr a “phŵer pŵ”
  • Y nod oedd ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf am botensial arbed dŵr i achub yr hinsawdd, ac i ddysgu sut y gellir troi carthffosiaeth yn ynni

Roedd Dŵr Cymru Welsh Water, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wrth eu boddau i gynnal sesiwn addysg rithiol ar gyfer dros 6,000 o ddisgyblion mewn cydweithrediad â Chadw Cymru’n Daclus ddydd Gwener, 5 Tachwedd.  Cafodd yr achlysur; Newid yr Hinsawdd: Dŵr a Phŵer Pŵ, ei ffrydio’n fyw i 230 o ddosbarthiadau mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru.

Rhoddodd y sesiynau gipolwg i ddisgyblion cenedlaethau’r dyfodol – y rhai y bydd penderfyniadau heddiw’n effeithio’r mwyaf arnynt – ar siwrnai’r cwmni i net o sero, ynghyd â chyfle i feithrin eu hymwybyddiaeth am y newidiadau bychain y gallant eu gwneud i helpu i daclo argyfwng yr hinsawdd. Sesiwn weledol, rhyngweithiol oedd yn cyd-fynd â Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru oedd hi – ac roedd hi’n hawdd i’r disgyblion ei deall.

Ar ôl esbonio rôl bwysig Dŵr Cymru fel busnes cyfrifol, cafodd yr holl gyfranogwyr eu cludo ar siwrnai rithiol fyw trwy weithfeydd trin dŵr gwastraff, gan gynnwys cyflwyniad i’r broses o gynhyrchu ynni cynaliadwy o garthffosiaeth trwy Dreulio Anaerobig Uwch (AAD). Fel cwmni sy’n cynhyrchu 23% o’i anghenion ynni ei hun, ac sydd wedi cwtogi 65% ar ei allyriannau carbon ers 2010, roedd athrawon a disgyblion fel ei gilydd yn gwerthfawrogi gwybodaeth y cwmni. 

Roedd ail ran y sesiwn yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd dŵr, sy’n rhan annatod o strategaeth net o sero Dŵr Cymru. O ystyried bod 90% o gyfanswm ôl troed carbon y cwmni’n deillio o ddefnyddio dŵr wedi ei wresogi, gallai arbed dŵr gael effaith sylweddol wrth leihau cyfanswm ôl troed carbon Cymru gyfan. Roedd y disgyblion yn awyddus i feddwl am eu cynlluniau gweithredu eu hunain, gan gydnabod y gallai newidiadau bach mewn arferion wneud gwahaniaeth mawr.

Mae gan Ddŵr Cymru enw da hirsefydlog am ei ddarpariaeth addysg ymarferol o safon uchel ar gyfer ysgolion, ac mae’r cwmni wedi gweithio gyda bron i 600,000 o ddisgyblion trwy ei strategaeth addysg ers 2010.  Mae’r digwyddiad yma’n un o nifer o weithgareddau y mae’r cwmni’n eu cyflawni’n rheolaidd trwy ein hymrwymiad i addysgu, hysbysu ac ysbrydoli’r to sy’n codi am werth dŵr. Mae’n gwneud hynny trwy ei ddull o weithredu sy’n unigryw yn y diwydiant, sy’n cynnwys secondio athrawon yn flynyddol.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: “Mae’r cyfle i gynnal sgwrs ystyrlon raddfa fawr â dros 6,000 o bobl o’r genhedlaeth nesaf yn hynod o werth chweil. Roeddem ni’n arbennig o falch o weld cyffro a chynnwrf yn ystod y sesiwn – yn ogystal ag ymateb y disgyblion i’n gwaith caled wrth helpu i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.”

Wrth drafod yr achlysur, dywedodd Tim Wort, Rheolwr Addysg Cadw Cymru’n Daclus: “Roeddem ni wrth ein boddau i gael gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i gynnal yr achlysur rhyngweithiol cyffrous yma oedd mor wahanol i bopeth arall sydd ar gael. Roedd y croeso a gafodd yr achlysur yn hynod, gan ddangos gwir awydd o du’r ysgolion i ddysgu am yr holl ffyrdd y gallant weithredu a gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Yn ystod y sesiwn, dywedodd un ysgol: “Rydyn ni wedi ymuno â bron i 200 o ysgolion o bob rhan o Gymru ar gyfer hyn heddiw. Mae hynny’n lawer o blant a fydd bellach yn gwybod am wneud gwahaniaeth i’n hamgylchedd.”

Roedd y sesiwn addysg yn cyd-daro â chyhoeddiad Dŵr Cymru ei fod ar y trywydd iawn i gynhyrchu lefelau uwch nag erioed o ynni gwyrdd eleni, a’i fod wedi buddsoddi £153 miliwn mewn prosiectau ynni adnewyddadwy dros y chwe mis diwethaf.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle