Heddiw ers i bandemig Covid 19 ddechrau mae cynnydd yn y nifer o ffermwyr sy’n gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol i’r defnyddiwr, mae’n bwysig bod ansawdd y cynnyrch a werthir o’r safon uchaf, gyda hyn mewn golwg mae Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio wedi bod yn gweithio gyda Fferm Forest Coalpit ar brosiect i fynd i’r afael â’r awydd cynyddol tuag at ddulliau cynhyrchu mwy cynaliadwy.
Mae’r prosiect wedi bod yn dadansoddi ac yn cymharu ansawdd porc o ddau grŵp triniaeth: un grŵp wedi’i fagu ar gyfuniad o borthiant a dwysfwyd a’r llall ar ddwysfwyd yn unig.
Bydd canlyniadau’r prosiect a gasglwyd yn dilyn yr asesiadau a gynhaliwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn cael eu trafod gan Caroline Mitchell o FQM Global mewn gweminar arbennig a gynhelir gan Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio ar Dachwedd 18fed am 7yh.
Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Bydd y weminar yn gyfle cyffrous i edrych ar yr effeithiau y gall dietau gwahanol eu cael ar ansawdd porc a gallai ychwanegu gwerth at y cynnyrch.”
Mae ansawdd porc yn bwysig iawn i Kyle Holford a Lauren Smith o Fferm Forest Coalpit, sy’n rhedeg eu cenfaint 20 hwch eu hunain ac yn gorffen buches o’u brîd eu hunain o foch ‘Du Cymreig’ (Du Mawr X Duroc) ar borfa a choetiroedd ar eu fferm yn y Bannau Brycheiniog.
Maent yn cigydda ac yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn blychau porc a hefyd yn cyflenwi bwytai a chigyddion sydd wedi ennill gwobrau.
Fodd bynnag, ers i’r pandemig Covid 19 ddechrau, mae eu porc yn cael ei werthu yn bennaf trwy flychau a chigyddion.
Meddai Kyle Holford: “Rwy’n aml yn eistedd yn bwyta rhywfaint o’n porc yn meddwl pam ei fod yn blasu mor arbennig, yn amlwg mae’n amrywiaeth o ffactorau brîd, maes, rheolaeth a diet. Roeddwn i eisiau gwneud y prosiect hwn er mwyn darganfod pa rôl oedd gan borthiant ar flas a gweld y buddion a ddaw yn ei sgil.
“Roedd ein prif ffocws ar ddadansoddi’r brasterau gan mai dyma le mae’r gwahaniaeth i’w weld ar rywogaethau eraill. Yn ogystal â hyn fe wnaethom bwyso’r moch drwyddi draw i weld os yw
porthiant yn dod ag unrhyw fuddion cynhyrchu hefyd. O’r prosiect hwn rydym yn gobeithio dysgu gwerth porthiant mewn cynhyrchu moch awyr agored p’un a yw’n dod o fudd cynhyrchu, blas neu ar gyfer dal a storio carbon a buddion amgylcheddol, ”ychwanegodd.
Mae’r prosiect hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r awydd cynyddol gan ddefnyddwyr i weld ansawdd ac olrhain yn eu cynnyrch.
Ychwanegodd Dafydd Owen, Swyddog Technegol Moch i Cyswllt Ffermio: “Mae mynychu’r weminar yn gyfle grêt i glywed am y prosiect arloesol sy’n digwydd yn Forest Coalpit. Mae’n gyfle da hefyd i ddod i wybod mwy am y system mae Kyle a Lauren yn rhedeg ac i ofyn unrhyw gwestiwn sydd gennych”
Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle