Cododd beicio David Lloyd er cof am ei fam £2,566 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg fel diolch am ei gofal.

0
242
David Lloyd cycle challenge

Beiciodd David, yng nghwmni ei ffrind Gavin Alexander a chariad ei ferch Jake Cox, y 156 milltir o Fryste i Aberdaugleddau dros dri diwrnod ar ddechrau mis Awst.

“Cafodd Mam ofal mor wych gan y staff a’r meddygon yn Ysbyty Llwynhelyg, yn enwedig yn ei hwythnosau olaf, ac roedd hynny’n golygu cymaint i’r teulu i gyd,” meddai David, sy’n 56 oed.

Dywedodd David fod y reid wedi mynd yn dda er eu bod ychydig yn nerfus ar y dechrau oherwydd y glaw ‘Beiblaidd’ y noson cynt a bore’r reid.

David Lloyd cycle challenge

“Diolch byth, erbyn i ni gychwyn roedd y glaw wedi stopio,” meddai David. “Ond roedd tro anghywir yn golygu ein bod wedi mynd i fyny bryn mawr nad oedd angen i ni ei ddringo, roedd yn rhaid cerdded ar draws Pont Hafren oherwydd y gwynt ac roedd gwyriad a ychwanegodd bedair milltir arall at ein diwrnod hiraf!

“Yna roedd glaw trwm eto ar ddiwrnod dau ac am ran o ddydd Sul ond erbyn i ni gyrraedd Sir Benfro roedd yr haul allan o’r diwedd.

“Y foment fwyaf cofiadwy oedd beicio i mewn i Stryd Edward yn Aberdaugleddau i orffen y reid a chael fy nghyfarch gan fy nheulu. Hoffem i gyd ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Rydym yn cael ein rhyfeddu at haelioni pobl a chan y swm a godir.

David Lloyd cycle challenge

Dywedodd Janice Cole-Williams, Rheolwr Cyffredinol Ysbyty Llwynhelyg: “ Hoffem fynegi ein diolch diffuant am y rhodd gwych hon o £2,566. Roedd cwpl o’n tîm yn falch iawn o gwrdd â David, Gavin a Jake pan wnaethant ddod i Ysbyty Llwynhelyg tra ar gymal olaf eu taith i Aberdaugleddau.

“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i deulu Anne am wneud hyn i ddiolch i’n tîm am y gofal a ddarperir i Anne tra’n glaf ar Ward 4. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gefnogodd deulu Anne i godi swm mor fawr ac mae ein timau bellach yn ystyried sut i wario’r rhodd garedig iawn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle