Troi doniau cudd yn fusnes

0
252
Photo by Priscilla Du Preez on Unsplash

Mae menywod ar draws gorllewin Cymru yn cael eu hannog i fod yn entrepreneuriaid llwyddiannus drwy droi eu sgiliau a’u doniau cudd yn fusnesau sy’n gwneud arian.

Oes gen i syniad? yw’r weminar ddiweddaraf i gael ei rhedeg gan Chwarae Teg ar gyfer rhai sydd am fod yn fenywod busnes, ac fe fydd yn cynnwys cyngor gan fodelau rôl ac yn darparu’r arweiniad a’r offer ar gyfer troi talent yn fusnes hyfyw.

Bydd y sesiwn yn cael eu teilwra ar i gynulleidfaoedd gorllewin Cymru, fel bod menywod sy’n byw yno yn clywed gan entrepreneuriaid lleol ac ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael yn lleol hefyd.

Mae’r gweminarau yn rhan o bartneriaeth Chwarae Teg gyda Simply Do Ideas, a ariennir gan NatWest, ac a gefnogir gan Syniadau Mawr Cymru, wrth iddynt gydweithio i gynyddu nifer yr entrepreneuriaid benywaidd ledled y wlad.

Mae Simply Do Ideas yn darparu platfform digidol AWEN (Rhwydwaith Entrepreneuraidd Menywod), y gall menywod ymuno ag ef, yn dilyn y weminar. Mae’n rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr gysylltu â menywod eraill sy’n cychwyn ar eu teithiau entrepreneuriaeth, ac mae’n cynnig y cymorth sydd ei angen er mwyn gwireddu eu breuddwydion busnes.

Mae manylion gweminar ‘Oes gen i syniad?’ a’r ddolen cofrestru, fel a ganlyn:

Yr entrepreneuriaid sy’n cymryd yw Shumana Palit o Ultracomida, Lottie Summer o Wild Coast Events, Tania Kenny o Welsh Sisters Dry Gin.

Meddai Emma Tamplin, Rheolwr Cydweithredu, Chwarae Teg: “Rydym gwybod fod gan lawer o fenywod ddigonedd o ddoniau cudd ond yn aml maen nhw’n tanbrisio eu sgiliau. Bydd y gweminarau hyn yn helpu menywod i ddatblygu hyder, nodi syniadau, dysgu sut beth yw rhedeg busnes a sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth ymarferol i droi hedyn o syniad yn gynllun.”

Meddai Lee Sharma, Prif Weithredwr, Simply Do Ideas: “Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio eto fel rhan o GWNEWCH IDDO DDIGWYDD er mwyn gwireddu breuddwydion menywod sy’n ystyried dechrau eu busnes eu hunain. Erbyn diwedd y weminar bydd ganddynt gyfres o offer i ddechrau adeiladu ar eu syniad drwy ein platfform digidol. Mae’n lle digidol diogel lle gall syniadau danio a gall arloesi ffynnu.”

Meddai Gemma Casey, Rheolwr Ecosystemau Cymru, NatWest: “Rydym yn gwybod mai un o’r rhwystrau mwyaf sy’n atal 60% o fenywod rhag dechrau busnes yw syndrom twyllwr a’r gred fewnol honno na allan nhw lwyddo. Y ffaith yw y gall y menywod hyn lwyddo, ac fel banc a arweinir gan bwrpas, a chefnogwr mwyaf busnesau newydd yn y DU, rydym am newid y meddylfryd hwnnw.

“Rydym wedi gosod targed i helpu i greu 50,000 o fusnesau newydd ychwanegol erbyn 2023 ac yn hollbwysig, bydd 60% o’r busnesau hyn yn cael eu harwain gan fenywod gyda’r mwyafrif y tu allan i Lundain a’r De Ddwyrain. Mae ein cefnogaeth a’n cyllid i brosiect fel Oes gen i syniad yn bwysig i’n helpu i gyrraedd y nod hwn a chreu cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid benywaidd llwyddiannus.”

Wedi’i ariannu gan NatWest, mae’r sesiynau’n rhan o gyfres lwyddiannus o weminarau GWNEWCH IDDO DDIGWYDD a ddechreuwyd gan Chwarae Teg a Simply Do Ideas yn 2020. Fe’u datblygwyd yn dilyn adroddiad a gynhyrchwyd gan Alison Rose, Prif Weithredwr, NatWest Group plc a Llywodraeth y DU ar werth entrepreneuriaeth fenywaidd. Canfu’r adroddiad fod llawer o waith i’w wneud er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch rhwng y rhyweddau mewn busnesau newydd, a allai, pe bai’n cael ei lenwi, ychwanegu hyd at £250 biliwn i economi’r DU. Ymhlith yr anghydbwyseddau trawiadol eraill, tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith mai dim ond 1 o bob 3 entrepreneur yn y DU sy’n fenywod: bwlch rhwng y rhyweddau sy’n cyfateb i 1.1 miliwn o fusnesau coll.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle