Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi datgelu dyluniad newydd ar un o’i drenau blaenllaw i gefnogi hosbisau Hope House a Tŷ Gobaith sydd wedi’u lleoli yng nghanol a gogledd Cymru.
Mae Hope House a Tŷ Gobaith yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n peryglu bywyd, a’u teuluoedd sydd o chanol a gogledd Cymru. Mae hefyd yn cynnwys gofal seibiant ac argyfwng, gofal diwedd oes, a chymorth cwnsela a phrofedigaeth.
Pleidleisiodd aelodau’r cyhoedd, trwy gyfrif Twitter TrC, dros dair elusen yr hoffent weld y sefydliad yn eu cefnogi trwy frandio nifer o’r trenau. Dyma’r elusennau a ddewiswyd:
- Hope House & Tŷ Gobaith
- RNLI (elusen bad achub)
- Cymdeithas Alzheimer Cymru (elusen dementia)
Mae set o gerbydau Mark IV y mae TrC newydd eu cyflwyno i’r gwasanaeth wedi’u haddurno gyda brand dwyieithog Hope House a Tŷ Gobaith. Pan fydd trên Tŷ Gobaith yn gwneud ei ffordd ar hyd rhwydwaith Cymru a’r Gororau, credir y bydd y nifer y bobl y bydd yn gweld y trên cymaint a channoedd o filoedd, yn enwedig gan fod mwy a mwy o bobl yn dychwelyd i deithio ar drenau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Pobl a Newid TrC, Bethan Jelfs: “Mae elusen Hope House a Tŷ Gobaith yn elusen fendigedig sydd wir yn cael effaith ar gymaint o blant a theuluoedd, yn aml ar yr adegau mwyaf heriol. Mae Trafnidiaeth Cymru yn hynod o falch o allu cefnogi’r elusen anhygoel hon.
“Edrychaf ymlaen at weld trên Hope House a Tŷ Gobaith yn teithio ar hyd ein rhwydwaith o amgylch Cymru a thu hwnt a gobeithio y bydd y cannoedd o filoedd o bobl a fydd yn gweld y trên yn cefnogi’r elusen.”
Ychwanegodd Simi Epstein, Cyfarwyddwr Codi Arian yr elusen: “Roeddem wrth ein boddau o gael ein dewis i ymddangos ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru. Rydym eisoes yn cael llawer o alwadau gan deuluoedd sy’n llawn cyffro am eu bod wedi gweld ein logo yn teithio trwy eu gorsafoedd lleol.
“Diolch yn fawr iawn i Drafnidiaeth Cymru am ein gwahodd i fod yn rhan o’r hyrwyddiad newydd cyffrous hwn.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle