CYNHYRCHWYR MOCH CYMRU YN CYRRAEDD ROWND DERFYNOL Y GWOBRAU MOCH CENEDLAETHOL

0
223
Kyle Holford a Lauren Smith o Fferm Forest Coalpit

Mae dau gynhyrchydd moch o Gymru yn y ras i gipio’r prif deitlau yng Ngwobrau Moch Cenedlaethol yr wythnos nesaf (22 Tachwedd).

Mae Jack Tiley, a Fferm Forest Coalpit, ar y rhestr fer yn y drefn honno ar gyfer Cynhyrchydd Moch Pedigri y Flwyddyn a Menter Farchnata’r Flwyddyn yng ngwobrau mawreddog y diwydiant moch.

Mae’r ddau fusnes wedi derbyn ystod o gyngor a chefnogaeth gan Menter Moch Cymru (MMC), gan gynnwys hyfforddiant technegol a gweminarau.

Ar 18 Tachwedd bydd Kyle Holford o Fferm Forest Coalpit yn rhan o weminar Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio yn trafod canlyniadau prosiect newydd a ymchwiliodd i effaith bwydo porthiant i foch a’i effaith ar y cynnyrch terfynol.

Wedi’i drefnu gan gylchgrawn y Gymdeithas Moch Genedlaethol, Pig World, mae’r Gwobrau Moch Cenedlaethol blynyddol yn tynnu sylw at arloesedd a rhagoriaeth ac yn dathlu llwyddiant o fewn y sector moch.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd bod cynhyrchwyr moch o Gymru unwaith eto yn cael eu cydnabod yn y Gwobrau Moch Cenedlaethol.

“Trwy ei waith gyda phob sector yn y gadwyn gyflenwi mae Menter Moch Cymru yn ymdrechu i ddatblygu diwydiant moch mwy cynaliadwy, proffidiol a chadarn yng Nghymru. Mae cael dau gynhyrchydd o Gymru yn rownd derfynol y Gwobrau Moch Cenedlaethol yn hyfryd, a dymunwn bob llwyddiant iddynt.”

Jack Tiley

JACK TILEY

Dechreuodd ddiddordeb Jack Tiley, a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategori bridiwr pedigri y flwyddyn, wrth weithio ar fferm gymunedol leol.

Heb unrhyw brofiad blaenorol o ffermio, mae Jack wedi ymgolli’n gyflym mewn bridio moch a phwysigrwydd cadw llinellau gwaed.

Bedair blynedd yn ôl, prynodd hwch dorrog Bedigri Berkshire, a’r flwyddyn ganlynol dechreuodd arddangos ei stoc y mae wedi’u magu gartref. Cynyddodd ei ddiddordeb, ac mae bellach yn gweithio i gadw a gwella llinellau gwaed moch. Yn

gynharach eleni cynhaliodd Wythnos Moch Berkshire ar dudalen Pedigree Pigs UK drwy Facebook.

efyd, fel rhan o godi ymwybyddiaeth am y brîd, mae’n rhedeg #malelinemonday a #femalelinefriday – cyfres am linellau gwaed ar dudalen Facebook Berkshire Pigs.

Dywedodd Jack, “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn llinellau gwaed a’u hamrywiaeth a’u math. Mae gen i ddwy hwch fridio sy’n cael baeddod gwahanol. Hyd yma, mae saith o’m baeddod wedi mynd i rannau eraill o’r wlad.” Mae Jack hefyd yn frwd dros helpu ac arwain bridwyr newydd i mewn i fyd eang cadw moch.

Mae Jack yn byw yn Rhisga ger Casnewydd ac yn cadw ei genfaint o foch pedigri Berkshire Fernlea ar fferm ffrind ger y Fenni. Yn ogystal â gweithio ar y fferm gymunedol yng Nghwmbrân, mae Jack yn cynnal cyrsiau ar gadw moch ac yn ymgynghori tyddynwyr.

Gwybodaeth Bellach: Facebook; JT Pet, Farm & Livestock Services

Instagram: @JTPetFarm&LivestockServices

Kyle Holford a Lauren Smith o Fferm Forest Coalpit

FFERM FOREST COALPIT

Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gynnig mewnwelediad i’w busnes wedi bod yn ddull llwyddiannus iawn i Kyle Holford a Lauren Smith o Fferm Forest Coalpit ger y Fenni.

Mae’r cwpl, sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Menter Farchnata’r flwyddyn, yn gweithredu uned 24 hwch sy’n pesgi moch yn yr awyr agored gan gynhyrchu tua 500 o foch Du Mawr x Duroc neu ‘Foch Duon Cymreig’ y flwyddyn.

Mae’r moch yn crwydro’n rhydd ar gymysgedd o goetir a phorfa, ac mae’r ffordd naturiol y mae’r cwpl yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wedi creu cwsmeriaid busnes pwysig ledled Cymru a thu hwnt ar gyfer eu porc, selsig a’u bacwn.

Mae pobl yn cael eu denu gan wreiddioldeb y fenter ac mae eu presenoldeb ar Instagram wedi bod yn fuddiol hefyd wrth fynd at ddarpar gwsmeriaid newydd.

Dywedodd Kyle, “Rydyn ni wedi gweld Instagram fel dull marchnata gwych, dim ond tynnu lluniau neis o’n moch a’r fferm ydyn ni, ond mae hyn wir wedi tynnu sylw atom ni. Yn wir, mae bron popeth yr ydym yn ei werthu wedi digwydd o ganlyniad i gwsmeriaid yn ein gweld ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Gwybodaeth bellach: www.forestcoalpitfarm.co.uk Instagram @forestcoalpitfarm @laurenladyfarmer facebook.com/forestcoalpitfarm


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle