Elywel Iechyd Hywel Dda ar sganiwr bledren a brynwyd ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Philip

0
242
Pictured is Senior Nurse Manager Colin Hopcroft with the new bladder scanner.

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu sganiwr pledren ychwanegol ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli.

Bydd y sganiwr hwn yn cael ei ddefnyddio ledled yr ysbyty, lle bo ei angen, i helpu’r timau meddygol i sicrhau diagnosis cychwynnol amserol.

Mae trol ac argraffydd symudol wedi cael eu prynu hefyd, i’w defnyddio gyda’r sganiwr.

Dywedodd y Nyrs Arweiniol Glinigol Gareth Phillips: “Mae hwn yn ddarn pwysig iawn o gyfarpar, a rhoddir gwerth mawr arno. Mae’n rhoi mynediad cyflym at ddiagnosteg i’n helpu i ddarparu’r driniaeth orau posibl.

“Mae gennym bellach sganiwr ar gael ar gyfer pob ward, ddydd a nos – gwasanaeth 24 awr – diolch i roddion gan ein cymunedau lleol.”

Yn y llun y mae’r Uwch-reolwr Nyrsio Colin Hopcroft gyda’r sganiwr pledren newydd.

Yn ôl Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.”

I gael manylion am yr elusen a’r modd y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yn www.justgiving.com/hywelddahealthcharities


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle