hywel Dda Health Charities ‘2021 Rhoi Apel Rhodd

0
202

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn lansio ei Apêl Anfonwch Anrheg blynyddol – ac eleni bydd yn cefnogi’r cleifion yn ein hunedau gofal dwys ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r apêl, sy’n lansio ddydd Llun, 15fed Tachwedd, yn rhedeg dros gyfnod o chwe wythnos ac yn annog cymunedau lleol i brynu anrheg o ddetholiad o eitemau sydd wedi’u dewis yn ofalus i ddarparu’r ychydig pethau ychwanegol a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr y Nadolig hwn.

Gellir gweld y rhestr dymuniadau Anfonwch Anrheg yn www.hywelddahealthcharities.org.uk.

Mae unedau gofal dwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofalu am gleifion difrifol wael ar draws y tair sir, yn ysbytai Glangwili, Bronglais, Llwynhelyg a Tywysog Philip.

Mae’r anrhegion a ddewiswyd ar gyfer Apêl Anfonwch Anrheg eleni yn cynnwys eitemau fel sychwyr gwallt, brwsys gwallt, seinyddion ar gyfer gliniaduron, gwefryddion ffôn, drychau, pethau ymolchi, eitemau crefft ac ysgrifennu, deunyddiau lliwio a llyfrau pos.

Bydd cleifion ym mhob un o’r tair sir yn elwa o’r anrhegion a brynwyd a bydd Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ddiolchgar am bob rhodd a dderbynnir.

Dywedodd Stephanie Hire, Rheolwr Cyffredinol Gofal Wedi ei drefnu, eu bod wrth ei bodd mai’r unedau gofal dwys a ddewiswyd ar gyfer Apêl Anfonwch Anrheg eleni.

Meddai: “Bydd pob anrheg a brynir yn gwneud gwir wahaniaeth y Nadolig hwn a byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gefnogaeth.

“Mae ein staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn gofalu am bobl sydd â chyflyrau difrifol sy’n peryglu bywyd a bydd yn golygu llawer i’n cleifion wybod bod ein cymunedau’n meddwl amdanynt.”

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda, Tara Nickerson: “Mae’r Nadolig bob amser yn amser cyffrous a phrysur i’r elusen.

“Rydym yn falch iawn o lansio ein Apêl Anfonwch Anrheg am y chweched flwyddyn yn olynol gyda’r nod o wneud gwahaniaeth i gleifion sy’n cael eu derbyn i’n hunedau gofal dwys dros yr ŵyl.

“Mae bob amser yn wych gweld y dwsinau o anrhegion yn cyrraedd ein swyddfeydd. Bydd Diwrnod Siwmper Nadolig a gwerthiant cardiau Nadolig ‘Elusennau Iechyd Hywel Dda’ hefyd yn cefnogi Apêl Anfonwch Anrheg.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle