Cronfa gymorth gwerth £51m i helpu teuluoedd sy’n dioddef waethaf o ganlyniad i’r argyfwng costau byw

0
232
Welsh Government

Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru heddiw y bydd pecyn cymorth newydd gwerth £51m yn helpu teuluoedd sy’n wynebu’r argyfwng costau byw i dalu eu biliau’r gaeaf hwn.

Mae Llywodraeth Cymru’n rhyddhau arian ychwanegol o’i chronfeydd wrth gefn i helpu aelwydydd incwm is, gan ddarparu cymorth ar unwaith i bobl sy’n wynebu costau byw cynyddol y gaeaf hwn. 

Bydd cam cyntaf y Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn targedu gwresogi a bwyta – gan roi cymorth ychwanegol i deuluoedd dalu eu biliau ynni dros y gaeaf a rhoi arian ychwanegol i fanciau bwyd a chynlluniau bwyd cymunedol.

Daw hyn wrth i Lywodraeth y DU wrthod gwrthdroi’r penderfyniad i dynnu’r cynnydd o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol sydd wedi bod yn allweddol i ddegau o filoedd o deuluoedd, ac mae Banc Lloegr yn rhybuddio y bydd chwyddiant yn codi i 5% erbyn y gwanwyn, gan wthio prisiau hyd yn oed yn uwch.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

Mae teuluoedd ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw go iawn o ganlyniad i brisiau cynyddol a thoriadau i fudd-daliadau allweddol.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r heriau digynsail hyn, rydym yn darparu £51m i ddatblygu ein cronfa bwrpasol ein hunain, sef y Gronfa Gymorth i Aelwydydd, i helpu gyda rhai o’r costau y mae teuluoedd yn eu hwynebu.

Lle mae San Steffan wedi methu â chefnogi teuluoedd, bydd Llywodraeth Cymru’n camu i mewn ac yn cefnogi ein cymunedau drwy’r cyfnod heriol hwn.”

Mae Jane Hutt , y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi amlinellu’r mesurau cyntaf a gaiff eu hariannu.

Bydd mwy na £38m ar gael drwy Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i aelwydydd sy’n derbyn budd-daliadau oedran gweithio sy’n seiliedig ar brawf modd.

Bydd aelwydydd cymwys yn gallu hawlio taliad untro o £100. Bydd ar gael i bob cwsmer ynni cymwys p’un a ydynt yn talu am eu tanwydd ar ragdaliad neu fesurydd credyd.

Mae mwy na £1.1m hefyd wedi’i ddarparu i gefnogi a chryfhau banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a chanolfannau cymunedol. Bydd hyn yn eu helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd a darparu ystod ehangach o wasanaethau i helpu pobl a theuluoedd i wneud y mwyaf o’u hincwm. Mae’n cynnwys ymestyn y prosiect Bocs Bwyd Mawr llwyddiannus i 25 ysgol arall.

Dywedodd Ms Hutt:

Rydym yn poeni’n fawr y bydd yr argyfwng costau byw, sy’n digwydd mor agos at y Nadolig, yn gorfodi teuluoedd i droi at fenthycwyr cost uchel neu fenthycwyr arian didrwydded anghyfreithlon i helpu i gael dau ben llinyn ynghyd.

Bydd y gronfa hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r dewisiadau amgen a all fod o help.

Mae’r rhan fwyaf o’r pwerau i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn yn nwylo Llywodraeth y DU ond rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu teuluoedd drwy’r gaeaf hwn.

Byddwn yn eich cefnogi chi, eich teuluoedd, eich busnesau a’ch cymuned drwy’r cyfnod digynsail hwn.”

Bydd cyhoeddiadau pellach am y Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn ystod yr wythnosau nesaf.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle