Elusennau Iechyd Hywel Dda ar CD Jef Luke

0
336

Mae cyn-aelod y Lluoedd Arfog, Jef Luke, 78 oed, o Bont Myrddin, Hwlffordd, wedi creu CD teyrnged o’i gerddoriaeth gitâr i godi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd Jef, sydd bellach wedi ymddeol ar ôl treulio 24 mlynedd yn y Llynges Fasnachol a’r Llynges Frenhinol, ei fod gwir wedi mwynhau gwneud y caneuon, er ei fod weithiau mewn poen oherwydd ei arthritis.

“Roeddwn i eisiau codi arian i ddweud diolch i’r llawfeddygon a’r staff gwych yn Ysbyty Llwynhelyg a driniodd fy mhartner Iris, pan gafodd ganser y coluddyn ddwy flynedd yn Ă´l, a gofalu amdani ar Ă´l llawdriniaeth,” meddai. “Rydyn ni’n dau yn ddiolchgar yn dragwyddol.

“Felly, fe wnes i greu’r CD fel teyrnged i’n GIG, ffordd amatur i dolch i’r gweithwyr proffesiynol yn y GIG. Nid yw geiriau’n ddigonol.

“Rwyf wedi rhoi enwau doniol i’r caneuon i roi rhywfaint o hiwmor i’r prosiect. Mae’r CD yn cynnwys fi’n chwarae’r gitâr dros drac cefnogol o ganeuon. Dechreuais ar ddechrau 2021 ar ol cael fy ysbrydoli gan y Capten Syr Tom Moore.

“Hefyd, diolch arbennig i’r nyrs ysgol a roddodd fy mrechlyn COVID-19 cyntaf imi. Roedd hi’n wirfoddolwr, yn arwres go iawn. Pan ddaeth i wybod bod gen i ofn afiach o bopeth meddygol, arhosodd gyda mi am y 20 munud cyfan roeddwn i yno.”

Teitl CD Jef yw ‘The Angels of the NHS’ ac mae’n costio £5. Gall Elusennau Iechyd Hywel Dda bostio un os byddwch chi’n cysylltu â nhw ar Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk neu maen nhw ar gael yn Sycamore Store, Bont Myrddin neu Computer Kingdom, Aberdaugleddau.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod yn ddiolchgar I Jef am ei brosiect cerddorol.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai Nicola.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle