Wrth ymateb i benodiad Leanne Wood i’r Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol i ystyried dyfodol Cymru, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,
“Hoffwn estyn fy niolch i Leanne Wood am dderbyn ei henwebiad i’r Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol ar ddyfodol Cymru’.
“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn llais cryf ac effeithiol ar ran y mudiad annibyniaeth ehangach. Bydd ei phŵer i ymgysylltu â phobl ledled Cymru ac ar draws cenedlaethau yn gaffaeliad enfawr i‘r Comisiwn wrth iddo geisio cael y sgwrs genedlaethol ehangaf bosibl ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Ar ei phenodiad, meddai Leanne Wood,
“Gyda’r Alban yn debygol o bennu ei dyfodol ei hun yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae hwn yn gyfle i bobl yng Nghymru gael y sgwrs fwyaf am ein dyfodol fel cenedl a gawsom erioed.
“Rwy’n falch o fod yn chwarae rhan fach yn hyn ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol â phobl yng Nghymru – gan sicrhau bod dyfodol Cymru yn parhau’n gadarn yn nwylo Cymru’.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle